Ymgysylltu Ffermwyr ag Ymchwil: y Grant Busnes Fferm

Awst 16, 20231 darlleniad munudDatblygu Gwledig a Chymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein hymchwil diweddaraf sy’n canolbwyntio ar y Grant Busnes Fferm. Mae’r grant yn gynllun sy’n darparu cymorth ariannol i ffermwyr yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd i annog ffermwyr i fabwysiadu arferion a thechnolegau cynaliadwy a all eu helpu i gynyddu eu proffidioldeb tra hefyd yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae wedi galluogi ffermwyr i wneud y buddsoddiadau sydd eu hangen i wella eu perfformiad cynhyrchiol ac amgylcheddol.

Fel rhan o’r ymchwil, fe wnaethom ymgysylltu â dros 800 o ffermydd ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys siarad â ffermwyr am eu profiadau, beth oeddent yn ei feddwl am y gefnogaeth a gawsant, ac i ddeall effaith y grantiau a dderbyniwyd yn well. Mae ein hymchwil yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau a safbwyntiau ffermwyr Cymru, gan gynnwys sut mae cynlluniau cymorth cyfalaf yn cael eu cynllunio a’u cyrchu.

Fel diolch i’r ffermwyr am eu cyfranogiad yn yr astudiaeth, rydym wedi rhoi rhodd o £1,620 i’r Sefydliad Daniel Picton-Jones. Mae’r elusen yn darparu ystod o gymorth iechyd meddwl i gymunedau ffermio ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect hwn neu ein gwaith sy’n cynnwys cymunedau ffermio mewn ymchwil cysylltwch â Endaf Griffiths.