Mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir y Fflint (CSF) i gynnal gwerthusiad cynhwysfawr o brosiectau Cronfa Ffyniant a Rennir (SPF) sydd â’r nod o ysgogi adfywio a gwelliannau trefi. Bydd y gwerthusiad hwn yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol CSF, gan gynnwys gwella amgylcheddau lleol, uwchraddio seilwaith ac eiddo, a meithrin ymdeimlad o berthyn i’r gymuned.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael £13.1 miliwn o Gronfa Ffyniant a Rennir, gyda £11 miliwn ar gyfer cyllid craidd a £2.2 miliwn ar gyfer rhaglen genedlaethol “Multiply”. Bydd y cronfeydd hyn yn targedu’r tair prif flaenoriaeth buddsoddi SPF:
-
Cymunedau a LleMeithrin balchder mewn ardaloedd lleol a gwella cyfleoedd bywyd.
-
Cefnogi Busnesau LleolHyrwyddo twf busnesau a datblygu mentrau lleol.
-
Pobl a SgiliauDatblygu sgiliau i wella cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfa.
Fel rhan o’r fenter hon, bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio’n benodol ar Raglen Buddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint (FTCIP), sy’n hanfodol ar gyfer adfywio canol trefi Sir y Fflint yn barhaus. Trwy broses gystadleuol dwy gam, mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael £1.178 miliwn o gyllid UKSPF er mwyn cyflawni’r rhaglen hon. Byddwn yn adolygu naw prosiect allweddol, a bydd ein dadansoddiad yn asesu sut mae pob prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth FTCIP a nodau strategol ehangach, megis Agenda Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU. Bydd hefyd yn ymgorffori ffocws ar:
-
Adfer ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn i’r gymuned.
-
Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol.
-
Hybu cynhyrchiant, cyflog a chyfleoedd swyddi drwy dyfu’r sector preifat.
-
Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd ein gwerthusiad yn tynnu ar arferion gorau, gan nodi meysydd i’w gwella a chyfleoedd i gryfhau ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Gan ddefnyddio methodolegau profedig o ganllawiau Llyfr Gwyrdd, Llyfr Magenta, a Llyfr Aqua Trysorlys EM, ynghyd â Fframwaith Gwerthuso Ffyniant a Rennir yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau (DLUHC) a thrwy integreiddio amcanion o’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol (RIP), bydd y gwerthusiad yn darparu mewnwelediadau hanfodol ar gyfer ymdrechion adfywio trefi a gwella seilwaith ledled Sir y Fflint.
Bydd ein gwerthusiad yn sicrhau bod ymdrechion adfywio Sir y Fflint yn cael eu cefnogi’n llawn, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiannau yn y dyfodol.