Asesiadau Gwerth Cymdeithasol
Mae canfod gwerth cymdeithasol eich ymyriad yn bwysig er mwyn deall graddau a chwmpas yr effaith y mae eich gweithgaredd yn ei chael ar gymunedau diddordeb amrywiol. Er bod y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol yn golygu bod gofyniad deddfwriaethol i ddangos manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ni ddylai hwn fod yn ymarfer ticio blychau. Yn hytrach, mae hwn yn gyfle a all ddod â llawer o werth ychwanegol i'ch prosiect neu fenter ar ôl iddo ymsefydlu. Fodd bynnag, gellir dehongli, dal, a dadansoddi gwerth cymdeithasol mewn amrywiaeth o ffyrdd a all arwain at gymhlethdod a dryswch a all hefyd danseilio cadernid canfyddedig y canfyddiadau. Yn Wavehill mae gennym yr arbenigedd i osgoi’r risg hon, sy’n tynnu ar ein profiad eang o asesu’r ystod lawn o fesurau gwerth cymdeithasol ar gyfer eich prosiect.
Yn Wavehill rydym yn:
-
Cynnwys effaith gymdeithasol mewn ymchwil a gwerthuso ar bob cyfle sy'n briodol i'ch prosiect. Gallwn dynnu ar dystiolaeth i gasglu a meintioli buddion gwell llesiant, iechyd ac ymgysylltiad cymunedol (ymysg eraill) sy’n deillio o’ch ymyriad.
-
Defnyddio ein hymarferwyr enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad hyfforddedig (SROI) i fodelu enillion cymdeithasol, sy’n gadarn ac a all arwain at dystiolaeth glir o fudd cymdeithasol. Mae ein harbenigedd economaidd-gymdeithasol yn modelu dadansoddiad cost a budd cymdeithasol yn unol â chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydii sicrhau bod ehangder yr enillion o ymyriad yn cael eu dal yn briodol.
Gyda chyfres o ddulliau o fapio, casglu a dadansoddi effaith gymdeithasol a gwerth ychwanegol eich gweithgaredd gallwn sicrhau bod ehangder llawn yr ychwanegedd yn cael ei ddal yn gadarn a'i gyfleu mewn modd syml, cryno.