top of page
Writer's pictureEndaf Griffiths

Ymgysylltu â Ffermwyr mewn Ymchwil: Grant Busnes y Fferm

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf sy'n canolbwyntio ar y Grant Busnes Fferm. Mae'r grant yn gynllun sy'n rhoi cymorth ariannol i ffermwyr yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i annog ffermwyr i fabwysiadu arferion a thechnolegau cynaliadwy a all eu helpu i gynyddu eu proffidioldeb wrth leihau eu heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd. Mae wedi galluogi ffermwyr i wneud y buddsoddiadau sydd eu hangen i wella eu perfformiad cynhyrchiol ac amgylcheddol.


Fel rhan o'r ymchwil, gwnaethom ymgysylltu â dros 800 o ffermydd ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys siarad â ffermwyr am eu profiadau, beth oeddent yn ei feddwl o'r gefnogaeth a gawsant, a deall effaith y grantiau a dderbyniwyd yn well. Mae ein hymchwil yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau a safbwyntiau ffermwyr Cymru, gan gynnwys sut mae cynlluniau cymorth cyfalaf yn cael eu cynllunio a'u cyrchu.


Fel diolch i'r ffermwyr am gymryd rhan yn yr astudiaeth, rydym wedi rhoi rhodd o £1,620 i Sefydliad Daniel Picton-Jones. Mae'r elusen yn darparu ystod o gymorth iechyd meddwl i gymunedau ffermio ledled Cymru.


Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn neu ein gwaith yn ymgysylltu â chymunedau ffermio mewn ymchwil, cysylltwch ag Endaf Griffiths.

Commentaires


bottom of page