top of page
Writer's pictureWavehill

Ymchwil i Adolygiadau Canol Gyrfa Cymru'n Gweithio – arolwg ar-lein a dros y ffôn gyda chwsmeriaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal ymchwil i adolygiadau canol gyrfa Cymru'n Gweithio. Nod yr ymchwil hwn yw:

  • archwilio ac ystyried y dystiolaeth gychwynnol ar gyflwyno adolygiadau canol gyrfa gan wasanaeth Cymru'n Gweithio

  • darparu trosolwg o dystiolaeth o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol ar yr arfer o adolygiadau canol gyrfa.

Fel rhan o'r ymchwil hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth am gyflwyno adolygiadau canol gyrfa gan wasanaeth Cymru'n Gweithio drwy arolwg gyda chwsmeriaid.


Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg, ac yn dienwi'r data amrwd, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies

Cyfeiriad e-bost: oliver.allies@wavehill.com 

Rhif ffôn: 0330 1228658


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i’w adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.


Mae Wavehill wedi derbyn eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn) gan Gyrfa Cymru sy'n darparu gwasanaeth Cymru'n Gweithio ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn cadw eich gwybodaeth fel defnyddiwr rhaglen Cymru'n Gweithio. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'ch manylion cyswllt at ddibenion yr ymchwil hon.


Bydd sut rydych chi'n cymryd rhan yn yr ymchwil yn dibynnu ar y manylion cyswllt sydd gan Gyrfa Cymru ar gael i chi:

  • Os oes cyfeiriad e-bost ar gael: byddwch wedi cael gwahoddiad drwy e-bost i gwblhau'r arolwg trwy ddolen. Nid yw cwblhau'r arolwg yn dal eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac, o ganlyniad, mae eich ymatebion yn ddienw.

  • Os nad oes cyfeiriad e-bost ar gael: byddwch wedi cael gwahoddiad dros y ffôn i gwblhau'r arolwg drwy gyfweliad ffôn. Nid yw Wavehill yn cofnodi eich enw na'ch manylion cyswllt fel rhan o'ch ymateb i'r arolwg ac, o ganlyniad, mae eich ymatebion yn ddienw. Gallwch ofyn am gynnal yr arolwg ar-lein a byddai angen eich cyfeiriad e-bost arnom i anfon dolen atoch.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Os nad ydych am gymryd rhan, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn a ddarperir a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, yna byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, neu gysylltu â'ch hunaniaeth. Mae canlyniadau'r arolwg llawn ar gael i Wavehill yn unig.


Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae eich cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i argymhellion ar arfer adolygiadau canol gyrfa yn y dyfodol.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad ‘cyber essentials’. 


Wrth gynnal arolygon,  mae Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill  yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu i gynhyrchu adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn cael ei ddileu gan Wavehill  o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.


Bydd Wavehill yn rhoi fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r ymchwil hon, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data (mewn rhai amgylchiadau);

  • (Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data ei dileu

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.


Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: http://www.ico.org.uk/


Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Enw: Sean Homer

Cyfeiriad e-bost: Sean.Homer001@gov.wales

Rhif ffôn: 0300 025 4045

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: DataProtectionOfficer@gov.cymru. 

 



Related Posts

Comments


bottom of page