top of page
Writer's pictureWavehill

Y Cynllun Cymorth Costau Byw ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Hysbysiad Preifatrwydd

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad o'r Grant Cymorth Costau Byw ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd ar ran Llywodraeth Cymru.


Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd y grant Costau Byw.


Mae’r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn yr arolwg naill ai'n fuddiolwyr neu'n sefydliadau cymwys a oedd ddim  wedi gwneud cais am y gefnogaeth. Fodd bynnag, mae cymryd rhan yn yr arolwg yn hollol wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r ymchwil yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i unrhyw un adnabod chi. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data, ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.

 

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd yr ymchwil.  Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Andy Parkinson yn andy.parkinson@wavehill.com Wavehill  neu Sara Maggs gyda Llywodraeth Cymru Sara.Maggs@gov.cymru

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.

 

Darparwyd eich manylion cyswllt (enw, rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost) i Wavehill gan Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu’r Grant Costau Byw i Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd. Maent yn cadw'r wybodaeth hon oherwydd eich cyfranogiad yn y grant. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.


Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am unrhyw data personol ychwanegol.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn negeseuon atgoffa, yna ymatebwch i’r e-bost gwahoddiad neu rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarperir a bydd eich manylion yn cael eu dileu.


Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, neu gysylltu â'ch hunaniaeth.


Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae eich cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Wesh gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol y Grant Costau Byw ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad ‘Cyber Essentials’.


Wrth gynnal arolygon, mae Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad rheolau diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fyddant nhw yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu i lunio adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu'n syth ar ôl i'r ymateb i'r arolwg gael ei lawrlwytho yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn 6 mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:


  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Cael eich data ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Cysylltwch â Sara Maggs gyda Llywodraeth Cymru Sara.Maggs@gov.cymru os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o'r uchod. 


Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:


Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales


Internal Reference 787-24



Related Posts

Comments


bottom of page