Roedd mis Chwefror yn nodi Mis Hanes LHDTC+ ledled y DU, ac i Wavehill yn benodol bu’n gyfnod o fyfyrio ac edrych yn ôl. Thema Mis Hanes LHDTC+ yn 2022 oedd Gwleidyddiaeth mewn Celf, ‘The Arc is Long’, yn seiliedig ar ddyfyniad gan Dr Martin Luther King Jr., “The arc of the moral universe is long, but it bends towards justice”. Ni ddylai’r ymadrodd hwn gymeradwyo penderfyniaeth, na thanseilio’r angen am gymryd camau rhagweithiol tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Mae’n ein hatgoffa o’r llwybr hir sydd eto i’w gerdded er mwyn dileu’r anghydraddoldebau strwythurol, a’r gwahaniaethu a wynebir gan gymunedau LHDTC+.
Yn Wavehill, rydym yn ymwybodol o ba mor hawdd yw ysgrifennu blog neu drydariad i gefnogi Mis Hanes LHDTC+, heb weithio’n ystyrlon weddill y flwyddyn i’n haddysgu ein hunain ac i sicrhau ein bod yn atgyfnerthu ein geiriau â gweithredoedd. Rydym yn cydnabod ein bod ni ar daith i wella ein hymwybyddiaeth a’n harferion ni’n hunain yn Wavehill, ac mae ein pwyllgor Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cymryd camau ymarferol i fynd i’r afael â’r bylchau hyn. Yn yr un modd, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod y sgyrsiau hyn yn digwydd ar draws y sefydliad cyfan, ac yn cael eu hystyried yn ein holl waith, nid yn unig ar bwyllgorau neu mewn cyfarfodydd Bwrdd, ond gyda chleientiaid a chydweithredwyr lle bo hynny’n briodol.
Yn ddiweddar, rydym wedi gorffen ein gwaith i Lywodraeth Cymru yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Mae’r cynllun trawslywodraethol hwn yn gynhwysfawr ei gwmpas, ac mae’n cynrychioli ymrwymiad pendant i gael cydraddoldeb i bawb yng Nghymru. I’r rheini ohonom a fu’n gweithio ar y prosiect hwn, fe’n hatgoffwyd mewn modd amserol o’r hawliau sylfaenol a’r gydnabyddiaeth mae pobl LHDTC+ wedi brwydro drostynt ac wedi’u hennill dros y degawdau diwethaf, a’r gwaith sydd angen ei wneud i adeiladu ar yr enillion hyn.
Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gymryd camau pendant tuag at greu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ nid yn unig yn ddiogel i fyw a charu’n rhydd fel nhw eu hunain, ond nad ydynt yn wynebu unrhyw rwystrau nac anghydraddoldebau strwythurol oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu o ganlyniad i ailbennu rhywedd. Mae ein gwaith ni wedi darparu dadansoddiad o’r materion, y themâu a’r safbwyntiau a gododd yn sgil yr ymatebion i’r Cynllun Gweithredu. Mae hon yn elfen allweddol o lywodraeth agored a democrataidd, a bydd ein dadansoddiad annibynnol a chadarn o’r ymatebion yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt fireinio’r Cynllun Gweithredu a symud tuag at ei weithredu’n ymarferol.
Wrth i Fis Hanes LHDTC+ ddod i ben, mae’n briodol ein bod yn cydnabod bod y Cynllun Gweithredu yn dangos ymrwymiad pwysig i Gymru ac i Hawliau LHDTC+. Gan fod y DU wedi cael ei chondemio’n ddiweddar gan Gyngor Ewrop am ymosodiadau ar hawliau LHDTC+, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Ac eto, mae hefyd yn gyfle i ni atgoffa ein hunain o hanes cyfoethog Pride ledled y DU. Yn ystod yr haf hwn dethlir 50 mlynedd ers gorymdaith Pride yn y DU, gorymdaith a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Llundain yn 1972. Mae ein profiad ym maes datblygu gwledig a seilwaith diwylliannol hefyd yn ein hatgoffa nad yw Llundain yn fetrig cyffredinol ar gyfer newid neu ddiwylliant. Dilynodd mwy o orymdeithiau Pride yn fuan wedyn, yn ardaloedd ein swyddfeydd eraill. Digwyddodd Pride Bryste am y tro cyntaf yn 1977. Dechreuodd Pride ar y Prom yn Aberystwyth yn 2012, sef y digwyddiad agosaf o’r fath i’n prif swyddfa yn Aberaeron, a chynhaliwyd gorymdaith gyntaf Pride yng Nghymru yng Nghaerdydd yn 1985 lle mae Pride Cymru yn parhau. Yn olaf, dechreuodd Northern Pride (yn Newcastle) yn swyddogol yn 2008. Gan gydnabod cerrig milltir mwy diweddar, yn 2009 casglodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddata hunaniaeth rywiol yn ei Harolwg Integredig o Gartrefi am y tro cyntaf. Rydym hefyd yn aros yn eiddgar am ganlyniadau Cyfrifiad 2021, sef y cyntaf i gasglu data ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yng Nghymru a Lloegr. Mae casglu, dadansoddi a defnyddio data yn hanfodol ar gyfer llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a heb y data yn y lle cyntaf, mae’n anodd gwneud ein gwaith ymchwil a gwerthuso. Fodd bynnag, rydym yn argymell erthygl gan Dr Kevin Guyan sy’n ystyried beth allai cwestiynau’r Cyfrifiad newydd ei olygu i gymunedau sydd wedi cael eu hystyried yn hanesyddol fel rhai ‘anodd eu cyrraedd’.
O’r herwydd, er bod data o ansawdd yn hanfodol ar gyfer ymchwil a gwerthuso o ansawdd, mae rôl yr ymchwilydd o ran dadansoddi a dehongli yn bwysicach eto. Dyma lle mae rhifau ar daenlen yn troi’n wybodaeth, a’r wybodaeth yn ei thro yn dod yn hanes. Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn parhau i ddysgu, ac rydym yn ymdrechu i drosi’r dysgu hwn i’n holl waith, boed hynny drwy gyfarfodydd cleientiaid, prosesau casglu data, neu recriwtio mewnol. Efallai fod yr arc yn un hir, ond ni ellir gwarantu bod y nod o greu cymdeithas lle gall pawb ffynnu yn cael ei gyflawni. Rydym yn ymrwymo i’r gwaith o sicrhau nad yw Hanes LHDTC+ yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror, ond ei fod yn gweithredu fel catalydd i wrando, dysgu a gweithredu.
Comments