Sut rydym yn cadw a phrosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill wedi cael ei benodi gan Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect i Adfer a Adnewyddu Colofn, Bwthyn a Thir Marcwis Môn.
Mae’n brosiect gweithfeydd cyfalaf a gweithgareddau a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw adfer a chadw strwythur hanesyddol arwyddocaol a gwella ymgysylltiad â hwnnw. Mae Wavehill wedi cael ei benodi fel gwerthuswr allanol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch fel rhan o waith i werthuso'n annibynnol y ffordd y mae'r prosiect yn cael ei reoli a beth mae'r cyllid yn ei gyflawni, ac i nodi unrhyw welliannau y gellir eu gwneud.
Dim ond at ddibenion y gwerthusiad y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain atoch yn cael eich hadnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.
Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â darparu neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.
Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarparwch a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad (disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2026).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â Nikki Vousden, sy'n arwain y gwerthusiad (nikki.vousden@wavehill.com), neu Delyth Jones-Williams o Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis (delyth@angleseycolumn.com).
O dan ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis
I ofyn i Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
I (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.
I (mewn rhai amgylchiadau) gael eich data 'dileu'.
Cysylltwch â Delyth Jones-Williams os ydych chi eisiau gwneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Gwybodaeth Bellach
1. Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?
Mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis i gynnal gwerthusiad o brosiect Adf ac Adnewyddu Colofn, Bwthyn a Thir Marcwis Môn. Mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn beth fydd effaith y prosiect ar unigolion a’r gymuned.
2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu?
Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar farn am brosiect Colofn, Bwthyn a Thir Marcwis Môn, y ffordd y caiff y cyllid ei reoli a beth mae'r cyllid yn ei gyflawni.
3. Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion penodol i'r person hwnnw.
4. Am ba hyd y caiff data personol ei gadw?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.
5. Beth yw'r sail gyfreithiol dros gasglu a phrosesu'r data a gesglir trwy'r arolwg?
Mae gwerthuso’r yn galluogi Ymddiriedolaeth Marcwis Môn i ddeall a yw'r prosiect wedi bod yn effeithiol. Felly, gellir ei ddefnyddio i hysbysu'r rhai sy'n ariannu'r prosiect (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a gweithgareddau yn y dyfodol. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir:
I benderfynu a oes angen gwneud newidiadau
I benderfynu a ddylai prosiectau tebyg barhau yn y dyfodol
I ddeall y dulliau gorau o weithio gyda chymunedau
Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Ymddiriedolaeth Marcwis Môn. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.
6. Beth yw diben prosesu eich atebion i'r arolwg?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi i alluogi Ymddiriedolaeth Marcwis Môn i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y prosiect. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol na marchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gesglir trwy'r arolwg?
Bydd gan Wavehill fynediad at y data personol a gesglir trwy'r arolwg. Ni fydd y data'n cael ei rannu gydag Ymddiriedolaeth Colofn Môn nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect (a ddisgwylir i ddod i ben ym Mehefin 2026).
Comentarios