Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill yn cynnal arolwg ar ran Cyngor Gwynedd. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu i ddeall perfformiad ac effeithiau prosiectau a ariennir gan Gronfa Canol Trefi UKSPF ar gyfranogwyr, cyflogwyr a chymunedau ehangach. Fel rhan o hyn, mae Wavehill yn cynnal arolygon o gyfranogwyr i gasglu gwybodaeth am gyflawniad ac effaith.
Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r arolwg yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod, eich cartref, eich busnes, eich sefydliad ac ati. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.
Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis. Mae eich atebion i'r arolwg wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cyswllt hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Huw Lloyd-Williams (huw.lloyd-williams@wavehill.com) neu Rhian Elen George (rhianelengeorge@gwynedd.llyw.cymru)
Mwy o wybodaeth
Beth yw prosiectau SPF Cyngor Gwynedd?
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cyllid SPF i wella cyfleusterau a seilwaith yng Nghanol Trefi yng Ngwynedd gyda'r nod o wella ymdeimlad o falchder mewn lle ymhlith canlyniadau SPF eraill. Prif bwrpas y gronfa yw ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymddangosiad canol ein trefi a'n dinasoedd, gan eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw a gweithio ac annog pobl i wario'u hamser a'u harian yno.
Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.
Gall yr arolwg gasglu rhywfaint o ddata personol ar gyfer yr holl ymatebwyr megis manylion cyswllt a gwybodaeth ddemograffig.
Am ba hyd y mae Cyngor Gwynedd yn cadw data personol?
Bydd data personol yn cael ei gadw am chwe mis yn unol â chanllawiau GDPR.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd?
Budd cyfreithlon.
Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?
Defnyddir y data i asesu perfformiad y prosiectau yn erbyn canlyniadau UKSPF.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu Cyngor Gwynedd i lywio rhaglenni a gwasanaethau cymorth yn y dyfodol, er budd pobl, cyflogwyr a'r cymunedau ehangach yng Ngwynedd.
Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?
Cyngor Gwynedd a Wavehill (y gwerthuswyr).
Int. Ref. (791-24)
Comments