Cyfweliadau â rhanddeiliaid
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal ymchwil i gefnogi datblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru newydd. Amcanion yr ymchwil yw:
Gweithio tuag at ddiffiniad o ‘waith ieuenctid’ yng nghyd-destun Cymru;
Cynhyrchu dealltwriaeth o ymyriadau gwaith ieuenctid effeithiol a thystiolaeth gyfredol am amrywiaeth ac ansawdd modelau gwaith ieuenctid ledled Cymru;
Adeiladu darlun o ystod, cyfaint, ansawdd ac effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru;
Ymgynghori â rhanddeiliaid i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n deillio efo COVID-19 a'r rhai sy'n annibynnol o'r pandemig;
Datblygu theori newid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru ar y cyd.
Fel rhan o'r ymchwil bydd Wavehill yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol.
Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy gyfweliadau ac yn ddienw'r data crai cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.
Mae eich Cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Wavehill yw Tom Marshall.
E-bost: tom.marshall@wavehill.com
Rhif ffôn: 01545 571711
Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy a gellir arwain at ei hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.
Bydd Wavehill wedi derbyn eich manylion cyswllt gan un o'r llwybrau canlynol:
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion cyswllt i Wavehill ar ffurf cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Grwpiau Cyfranogi Strategaeth a Grwpiau Tasg a Gorffen yn ogystal â'r rhai sydd wedi mynegi diddordeb o'r blaen mewn cefnogi datblygiad y Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Mae unigolion y cysylltwyd â hwy trwy'r llwybrau uchod wedi rhoi manylion cyswllt i chi ar gyfer Wavehill ac rydych wedi trefnu gyda Wavehill i gymryd rhan yn yr ymchwil.
Pan fydd Wavehill yn cysylltu â chi, dywedir wrthych sut y cafwyd eich manylion cyswllt.
Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych chi heblaw eich delwedd, os ydych chi'n cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio. Efallai y bydd angen i ni recordio rhai cyfweliadau am resymau gweithredol. Os mae angen hyn, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r cyfweliad gael ei recordio. Os cofnodir cyfweliadau, bydd data personol yn cael ei dynnu yn ystod y broses o drawsgrifio cyfweliadau. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn dilyn cyfweliadau.
Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu eisiau i Wavehill anfon nodiadau atgoffa atoch yna ymatebwch i'r e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Os dewiswch ddarparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?
Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hon, er enghraifft:
mewn adroddiadau yn ateb y cwestiynau ymchwil a amlinellir uchod ac a gyhoeddir ar wefan llywodraeth Cymru
llywio darpariaeth gwasanaethau neu raglenni yn y dyfodol
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn cyfathrebu hyn i Lywodraeth Cymru ac yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i wneud hynny.
Adroddir ar yr holl ddata a gesglir trwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth a gellir arwain i rywun hadnabod chi mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn ystod y trawsgrifiad dri mis ar ôl i'r contract ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai arwain i rywun adnabod chi.
Eich Hawliau fel Unigolyn
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect hwn, mae gennych chi'r hawl:
Cyrchu copi o'ch data eich hun;
I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (mewn rhai amgylchiadau); a
Dileu eich data (mewn rhai amgylchiadau); a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk.
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data rydych chi'n darparu fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno ymarfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:
Enw: Helen Shankster
Cyfeiriad e-bost: Helen.Shankster@gov.wales
Rhif ffôn: 0300 0259247
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost:
DataProtectionOfficer@gov.wales.
Comments