top of page
Writer's pictureWavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Rhewgelloedd Cymunedol

Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad o’r Prosiect Rhewgelloedd Cymunedol ar ran Menter Môn.    

Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu Menter Môn i ddeall yr effaith y mae’r Rhewgelloedd Cymunedol wedi’u chael ar y bobl sydd wedi’u defnyddio.


Mae pobl sy'n cymryd rhan yn yr arolwg hwn wedi'u dewis oherwydd eu bod wedi defnyddio'r Rhewgelloedd Cymunedol a ariennir gan Menter Môn. Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod yr arolwg a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.


Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Dim ond at ddibenion ymchwil y defnyddir y wybodaeth. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data, ond ni fydd hwn yn nodi unrhyw unigolion.


Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu fel rhan o'r Arolwg Rhewgelloedd Cymunedol. Cedwir y data dienw yn ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â rhys.maher@wavehill.com

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i: 

  • gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan Menter Môn.

  • Ei gwneud yn ofynnol Menter Môn gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.

  • mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.

  • (mewn rhai amgylchiadau) cael eich data eu ‘ddileu’

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Cysylltwch â Menter Môn os hoffech wneud unrhyw un o’r pethau hyn .  

Gwybodaeth bellach

1. Beth yw’r holiadur Rhewgelloedd Cymunedol? Mae Wavehill wedi'u contractio gan Menter Môn i gynnal arolwg o unigolion sydd wedi defnyddio'r Rhewgelloedd Cymunedol. Gan ddefnyddio’r arolwg, mae Menter Môn yn ceisio deall yr effeithiau y mae defnyddio’r Rhewgelloedd Cymunedol wedi’u cael ar bobl.


2. Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei gasglu trwy’r holiadur? Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod gyfyng o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Cymhellion dros ddefnyddio'r Rhewgelloedd Cymunedol • Hygyrchedd y Rhewgelloedd Cymunedol

• Agweddau at y bwyd sydd ar gael yn y Rhewgelloedd Cymunedol • Defnydd o fwyd yn y misoedd cyn defnyddio'r Rhewgelloedd Cymunedol • Defnydd Banc Bwyd  

3. Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Nid yw'r Arolwg Rhewgelloedd Cymunedol yn casglu unrhyw ddata personol.


Internal Ref: 726-23

Comments


bottom of page