Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch
Mae Menter Môn wedi penodi Wavehill i gynnal gwerthusiad Prosiect Seilwaith Morlais. Tasg allweddol y gwerthusiad yw mesur gwerth, effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen. Hoffem siarad â busnesau sydd wedi bod yn rhan o Prosiect Seilwaith Morlais i gasglu barn am sut mae’r prosiectau wedi’u rheoli a’u cyflawni. Mae Menter Môn wedi rhoi eich enw a manylion cyswllt i ni.
Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r gwerthusiad yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn yr arolwg yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich nabod chi. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad sy’n seiliedig ar y data ond ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion ar sail yr adroddiad.
Mae hefyd yn bwysig i nodi nad yw’r tîm sy’n ymgymryd â’r gwerthusiad yn gweithio i Menter Môn nac i unrhyw un o’r sefydliadau sy’n ymwneud â darparu nac ariannu’r prosiect hwn. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.
Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a’r holl ddata personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hon, o fewn chwe mis i derfyn y gwerthusiad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r gwerthusiad, teimlwch yn rhydd i gysylltu â naill ai Marianne Kell, sy’n arwain y gwerthusiad (marianne.kell@wavehill.com).
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at eich data personol sydd ym meddiant Menter Môn
Gofyn i Menter Môn gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
i wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau).
Cysylltwch â Marianne Kell os gwelwch yn dda os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn.
Gwybodaeth bellach
1. Pam mae’r gwaith ymchwil hwn yn digwydd?
Comisiynwyd Wavehill gan Menter Môn i gynnal astudiaeth ymchwil a gwerthuso o'u Prosiect Seilwaith Morlais. Mae gan Menter Môn ddiddordeb yn y ffordd y mae busnesau'n ymgysylltu â'r prosiect hwn yn ogystal â'r ffordd y mae'n cael ei reoli a'i gyflwyno.
2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy gyfrwng yr arolwg?
Mae’r cyfweliad yn canolbwyntio ar safbwyntiau ynghylch sut y cafodd Prosiect Seilwaith Morlais ei reoli, ei gyflawni ac unrhyw ganlyniadau canfyddedig o ganlyniad i’r prosiectau hyn.
3. Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.
4. Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i’r cytundeb ddod i ben.
5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?
Mae gwerthusiad Prosiect Seilwaith Morlais yn galluogi Menter Môn i ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol. Fe’i defnyddir felly i gefnogi gweithgareddau o fewn tasg gyhoeddus Menter Môn. Hynny yw, rôl a swyddogaethau craidd Menter Môn. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i Prosiect Seilwaith Morlais.
Penderfynu a ddylai rhaglenni fel Prosiect Seilwaith Morlais barhau yn y dyfodol.
Deall y dulliau gorau o greu ffyrdd newydd o weithio a phartneriaethau newydd.
Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Menter Môn. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.
6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r arolwg?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data yn cael ei ddadansoddi i alluogi Menter Môn i ddeall effaith ac effeithiolrwydd Prosiect Seilwaith Morlais. Bydd hyn yn helpu Menter Môn i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i Prosiect Seilwaith Morlais. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy’r arolwg?
Bydd gan Wavehill gopi o’r data personol i’w alluogi i gynnal yr arolwg a bydd yn nodi enw, rôl swydd ac enw sefydliad yn ystod y cyfweliad.
Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o’r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Bydd y nodiadau hyn yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr Wavehill i greu adroddiad ar gyfer Menter Môn. Ni fydd yr adroddiad hwn yn galluogi neb i adnabod unrhyw unigolion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau yn cael eu rhannu â Menter Môn nac unrhyw un arall tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu’r holl ddata personol o fewn chwe mis i’r prosiect ddod i ben. Ni fydd Menter Môn yn cael mynediad i ddata personol a gasglwyd yn ystod y cyfweliadau.
Internal Ref 753-23
Comments