top of page
Writer's pictureWavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Penodwyd Wavehill gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas ym Mhenparcau, Aberystwyth.


Fel rhan o'n gwerthusiad, rydym yn gofyn i staff y prosiect, aelodau'r grŵp llywio a rhanddeiliaid roi adborth ar ddarpariad y prosiect, yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a gwersi a ddysgwyd.

 

Bydd y data a roddwch yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn  yn unig. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rywun  i adnabod chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.

 

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, CBHC nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn  asesiad annibynnol.

 

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfweliad neu'r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dr Nikki Vousden yn Wavehill (nikki.vousden@wavehill.com | 0330 1228658) neu Nicola Roberts yn CBHC (nicola.roberts@rcahmw.gov.uk).


O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:


  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed neu CBHC

  • Ei gwneud yn ofynnol  i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed neu CBHC gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

 

Cysylltwch â Nicola Roberts os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.

 

Mwy o wybodaeth


Pam mae'r ymchwil hon yn digwydd?

Mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a CBHC i gynnal gwerthusiad o'u Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas.  Nod y prosiect yw arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y gymuned yn gofyn y cwestiynau, gan greu gwybodaeth newydd yn y broses o'u hateb.  Mae gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a CBHC ddiddordeb yn yr effaith y mae'r prosiect wedi'i chael ar unigolion a'r gymuned.


Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r cyfweliad yn canolbwyntio ar farn ynghylch sut y  cafodd Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas ei gyflawni, canlyniadau canfyddedig o ganlyniad i'r prosiect a'r gwersi a ddysgwyd.

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Am ba hyd y bydd data personol yn cael ei gadw?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i'r contract ddod i ben.


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir drwy'r arolwg?

Y sail gyfreithiol yw budd cyfreithlon. Mae'r gwerthusiad o Brosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas yn galluogi Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a CBHC i ddeall a yw'r prosiect wedi bod yn effeithiol. Felly gellir ei ddefnyddio i hysbysu cyllidwyr y prosiect (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a gweithgareddau yn y dyfodol o fewn rôl a swyddogaethau craidd y sefydliadau. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd:


  • Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i brosiectau archaeoleg gymunedol yn y dyfodol

  • Penderfynu a ddylai prosiectau fel Prosiect Archaeoleg Gymunedol Pendinas Hillfort barhau yn y dyfodol

  • Deall y dulliau gorau ar gyfer creu ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a CBHC.  Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.


Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i'r arolwg?

Bydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi i alluogi Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a CBHC i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y prosiect. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.


Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Bydd gan Wavehill fynediad at y data personol a gesglir drwy'r arolwg. Ni fydd y data'n cael ei rannu gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, CBHC nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect (y bwriedir iddo ddod i ben ym mis Awst 2024).

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Int. Ref. (750-23)

Related Posts

Comentarios


Los comentarios se han desactivado.
bottom of page