top of page
Writer's pictureWavehill

Hysbysiad Preifatrwydd IPP

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Penodwyd Wavehill gan Cwmpas i gynnal gwerthusiad i ddal pob elfen o gyflawni'r prosiect; gan gynnwys adborth gan fusnesau cymdeithasol a thimau caffael. 

 

Bydd y data a roddwch yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rywun i adnabod chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.

 

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Cwmpas nac i unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn asesiad annibynnol.

 

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Beth Tweddell, sy'n arwain y gwerthusiad (beth.tweddell@wavehill.com) neu i gysylltu â David Madge, sy'n arwain y prosiect yn Cwmpas (david.madge@cwmpas.coop)

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Cwmpas.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Gwmni Cwmpas gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk, neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth

Pam mae'r ymchwil hon yn digwydd?

Mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan Cwmpas i gynnal gwerthusiad i ddal pob elfen o gyflawni'r prosiect; Cofnodi llwyddiannau'r broses gyflenwi ac adborth cyfranogwyr. Bydd y data hwn yn canolbwyntio ar ymddygiad cyfranogwyr yn unol â gofynion UKSPF e.e. adborth ynghylch digwyddiad a'r effaith a gafodd ar eich sefydliad.

 

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar farn y digwyddiad/digwyddiadau, profiad a dealltwriaeth o'r digwyddiadau a fynychwyd.

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Am ba hyd y bydd data personol yn cael ei gadw?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i'r contract ddod i ben.


Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i'r arolwg?

Mae'r gwerthusiad o'r prosiect Hybu'r Economi Gymdeithasol yn galluogi Cwmpas i ddeall yr effaith y mae'r prosiect yn ei chael ar yr economi gymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.


Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Cwmpas, ac mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.

 

Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.


Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg.

 

Bydd Wavehill yn dadansoddi'r data a gynhyrchir o'r arolwg hwn, a bydd hyn yn cael ei ddadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Cwmpas.

Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau'n cael eu rhannu gyda'r bartneriaeth, nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect.


Internal Ref: 803-24

Related Posts

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page