top of page
Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Dyffryn Taf (Llys Cadwyn): cyfweliadau â rhanddeiliaid

Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad o ddatblygiad adeiladau Llys Cadwyn yng Nghanol Tref Pontypridd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT).


Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu CBSRhCT i ddeall llwyddiant y prosiect a'r effaith y mae wedi'i chael ar ganol y dref. 


Mae pobl sy'n cymryd rhan yn y gwerthusiad wedi cael eu dewis gan CBSRhCT yn seiliedig ar lefel eu ymglymiad/diddordeb yn y prosiect. Mae cymryd rhan yn y gwerthusiad yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r cyfweliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rywun i adnabod chi neu'ch sefydliad . Mae'r wybodaeth dim ond yn cael ei defnyddio i lywio'r adroddiad gwerthuso ar gyfer y prosiect hwn. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data a gasglwn ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion..

 

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis i ddyddiad cau'r contract (rhagwelir y bydd hyn tua Rhagfyr 2024).  Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Oliver Allies (Oliver.allies@wavehill.com neu 0330 1228658 neu Andrea Virgo yn CBSRhCT (andrea.virgo@rctcbc.gov.uk). 

 

O dan y GDPR, mae gennych yr hawl:

 

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data ei 'ddileu'.

 

Cysylltwch â CBSRhCT os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth


Beth yw Gwerthusiad o Ddatblygiad Dyffryn Taf (Llys Cadwyn)?

Mae'n werthusiad o ddatblygiad adeiladau Llys Cadwyn yng Nghanol Tref Pontypridd. Mae wedi'i gyflawni dros sawl cam, gan adolygu'r cam cynllunio a dylunio i ddechrau, y cyfnod adeiladu ac yna effaith y cyfleuster nawr mae'n weithredol.

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.


Mae'r gwerthusiad yn casglu rhywfaint o ddata personol ar gyfer pob cyfwelydd fel enw a chyfenw.

 

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd? 

Y sail gyfreithiol yw tasg gyhoeddus yr Awdurdod Lleol.

 

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i asesu cynnydd, llwyddiant ac effaith y cynllun adfywio. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar etifeddiaeth y cynllun ar gyfer canol tref Pontypridd.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu drwy ddarparu safbwyntiau annibynnol, gwybodus ar lwyddiant y cynllun.


Int. Reference 427-19



Related Posts

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page