top of page
Writer's pictureWavehill

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgeiswyr Swydd

Diolch am fynegi diddordeb mewn swydd gyda Wavehill. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn casglu, defnyddio, datgelu a diogelu eich gwybodaeth bersonol yn ystod y broses ymgeisio am swydd.


1. Gwybodaeth rydym yn ei chasglu:

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol gan ymgeiswyr am swyddi:

  • Gwybodaeth Cyswllt: Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.

  • Gwybodaeth Broffesiynol: CV gan gynnwys profiad gwaith, addysg a sgiliau.

  • Gwybodaeth ychwanegol: Tystlythyrau, ardystiadau, a gwybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd a ddarperir yn wirfoddol gan yr ymgeisydd.

  • Data monitro Cyfle Cyfartal [gwirfoddol]

2. Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth:

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd at y dibenion canlynol:

  • Asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd rydych wedi gwneud cais amdani.

  • I gysylltu â chi ynglŷn â'ch cais.

  • Cynnal gwiriadau cefndir a gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd.

  • I gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.

  • Mae monitro gwybodaeth am ddata Cyfle Cyfartal yn ein helpu i nodi unrhyw anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes a, lle y gallai anghydraddoldebau newydd fod yn datblygu, cymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Cesglir y data hyn yn wirfoddol ac mae'n gwbl ddienw.


3. Rhannu Gwybodaeth:

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda:

  • Gweithwyr mewnol sy'n ymwneud â'r broses recriwtio.

  • Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy'n ymwneud â gwiriadau ac asesiadau cefndir.

  • Awdurdodau cyfreithiol a rheoleiddiol, os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

  • Dim ond data dienw Cyfleoedd Cyfartal sy’n cael ei rhannu efo ein grŵp  Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant.


4. Diogelwch Data:

Rydym yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad heb awdurdod, datgelu, newid a dinistrio. Mae mynediad i'ch gwybodaeth wedi'i gyfyngu i weithwyr sydd ei angen i gyflawni eu dyletswyddau swydd.


5. Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data:

Rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon canlynol ar gyfer prosesu eich data personol o dan GDPR y Deyrnas Unedig:

  • Erthygl 6 (1)(b) sy'n ymwneud â'r prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract

  • Erthygl 6(1)(f) - Buddiannau cyfreithlon


6. Cadw Gwybodaeth:

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol drwy gydol y broses recriwtio ac am gyfnod rhesymol wedi hynny. Os ydych chi'n cael eich cyflogi, bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'ch ffeil staff. Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen i gyflawni'r dibenion y cafodd ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol neu adrodd amdanynt.


7. Eich hawliau:

Mae gennych hawl i:

  • Cyrchu ac adolygu eich gwybodaeth bersonol.

  • Cywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich gwybodaeth bersonol.

  • Tynnu'ch cais yn ôl ar unrhyw adeg


8. Gwybodaeth Gyswllt:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am brosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â louise.petrie@wavehill.com. Drwy gyflwyno'ch cais, rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen a deall yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

 



Related Posts

Comments


bottom of page