Sefydlwyd y Gronfa Adfywio Cymuned (CRF) gan lywodraeth y DU i alluogi'r DU i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Darparodd y rhaglen £220 miliwn o gyllid sydd wedi galluogi cymunedau i gael mynediad at arian a sefydlu prosiectau ar draws pedair blaenoriaeth buddsoddi: sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol, a chefnogi pobl i gael gwaith. Lansiwyd y gronfa ym mis Mai 2021, a chyflawnwyd prosiectau llwyddiannus o fis Tachwedd 2021 - Rhagfyr 2022.
Comisiynwyd Wavehill gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) i gynnal gwerthusiad rhaglen gyfan o'r CRF. Mae ein gwerthusiad yn ymdrin â'r Deyrnas Unedig gyfan, ac yn cynnwys:
gwerthusiad proses er mwyn adolygu pa mor effeithiol yw darparu'r gronfa ac er mwyn adnabod gwersi ar gyfer rhaglenni'r dyfodol.
gwerthusiad meta o hyd at 450 o werthusiadau lefel prosiect a gomisiynwyd gan brosiectau CRF, ar draws y pedair blaenoriaeth buddsoddi.
datblygu astudiaethau achos sy'n arddangos effaith y rhaglen, ar draws y pedair blaenoriaeth buddsoddi.
Bydd ein hadroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bydd ein hargymhellion eu defnyddio i lywio datblygiad rhaglenni'r dyfodol.
Comentários