Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd, Llangefni (Grŵp Llandrillo Menai) wedi comisiynu Wavehill, cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd, i ymgymryd â gwerthusiad o Brosiect HELIX, gan gynnwys y ffordd y mae'r busnesau a gefnogir wedi elwa.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein a chyfweliadau ffôn/fideo gyda'r busnesau a gefnogir i gasglu barn am ansawdd y gefnogaeth a ddarperir a'i effaith.
Y Ganolfan Technoleg Bwyd yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg ac yn ddienw'r data crai cyn iddo gael ei rannu gyda'r rhain.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad â busnesau a gefnogir yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a ddarperir i'r Ganolfan Technoleg Bwyd a'i basio ganddynt i Lywodraeth Cymru sy'n ariannu'r prosiect. Dylech fod yn ymwybodol ei bod hi'n debygol y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar-lein. Mae eich cyfraniad yn gyfrinachol fodd bynnag ac ni fyddwch yn cael eich adnabod o fewn yr adroddiad hwnnw oni bai bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio'r gwerthusiad a'r trafodaethau parhaus am y gefnogaeth a ddarperir i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil yma yn Wavehill ydy: Endaf Griffiths
Cyfeiriad e-bost: endaf.griffiths@wavehill.com
Rhif ffôn: 0330 1228658
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym ni a lle rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at adnabyddwr'.
Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi rhoi eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) i Wavehill at ddiben cynnal arolwg fel rhan o werthuso Prosiect HELIX. Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn cadw eich manylion cyswllt fel busnes sydd wedi cael ei gefnogi gan y prosiect. Bydd Wavehill ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Nid oes gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg/cyfweliad ac ni fydd unrhyw beth y byddwch yn sôn amdano yn cael ei gynnwys yn y nodiadau a gymerwyd yn ystod y cyfweliad.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan ar unrhyw adeg neu gael eich anfon i'ch atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer awdurdod Llywodraeth Cymru (fel cyllidwr y prosiect) i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am eu gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft:
Mewn adroddiad gwerthuso yn asesu gweithrediad ac effeithiau cynlluniau sector bwyd Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
Llywio darparu gwasanaethau neu raglenni sy'n ymwneud â'r diwydiant bwyd yn y dyfodol
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil. Mae gan Wavehill ardystiad ‘cyber essentials’.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data dan amheuaeth. Os bydd toriad yn digwydd, bydd Wavehill yn adrodd hyn i'r Ganolfan Technoleg Bwyd a fydd yn eich hysbysu ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddyn nhw wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sydd wedi ei chasglu i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Ganolfan Technoleg Bwyd a/neu Lywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol oni bai bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.
Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw i'r Ganolfan Technoleg Bwyd o'r data na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.
Hawliau unigol
O dan reolau GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o werthuso Prosiect HELIX, mae gennych yr hawl:
I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
I ni unioni anghywirdebau yn y data hwnnw;
I wrthwynebu prosesu neu gyfyngu (mewn rhai amgylchiadau);
Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
I gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan www.ico.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynglŷn â sut bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan y Ganolfan Diwydiant Bwyd neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â:
Enw: Paul Roberts
Cyfeiriad e-bost: paul.roberts@gllm.ac.uk
Rhif ffôn: 01248 383 345
Comments