top of page
Writer's pictureWavehill

Gwerthusiad Prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw: Arolwg Ar-lein

Mae Coleg Prifysgol Cork (UCC) wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o'r Prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw. Arweinir y prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw gan Goleg Prifysgol Cork (UCC), mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Canolfan Uwch y Gymraeg a Chyngor Sir Wexford. Mae tîm rheoli'r prosiect wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o'r prosiect.

Mae’r prosiect Prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw yn archwilio hanes a diwylliannau pum ardal porthladd Dulyn a Rosslare yn Iwerddon, a Chaergybi, Abergwaun a Doc Penfro yng Nghymru. Wrth ei gyflwyno bydd y prosiect yn hyrwyddo treftadaeth pob tref i’r cyhoedd, o fewn y cymunedau arfordirol eu hunain ac i’r cyhoedd sy’n ymweld, a bydd yn llywio strategaethau twristiaeth treftadaeth hirdymor y pum cymuned porthladd a’u hardaloedd cyfagos. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru a bydd yn rhedeg o fis Mai 2019 i fis Ebrill 2023.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr arolwg yn cael ei chynnwys mewn adroddiad i UCC, a fydd efallai am ei gyhoeddi. Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl ddienw, fodd bynnag, ni fyddwch yn cael eich enwi naill ai i UCC nac mewn unrhyw allbynnau ymchwil a gynhyrchir gan Wavehill. Ar ben hynny, mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol a gallwch benderfynu gorffen yr arolwg ar unrhyw adeg trwy gau eich porwr we. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwerthusiad y rhaglen hon.

Fel rhan o'i werthusiad, bydd arolwg yn cael ei gynnal gyda rhanddeiliaid dros y ffôn neu wedi'i gwblhau ar-lein. UCC is the data controller for the research. However, Wavehill will delete any personal data provided during the survey, before it is shared with UCC. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad i UCC, a fydd efallai am ei gyhoeddi.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwerthusiad y rhaglen hon. Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Endaf Griffiths: E-bost: endaf.griffiths@wavehill.com

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon? Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan Brosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw naill ai oherwydd eich cyfranogiad neu eich diddordeb yn y rhaglen. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu trosglwyddo i Wavehill.

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i adnabod nhw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan Brosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw naill ai oherwydd eich cyfranogiad neu eich diddordeb yn y rhaglen. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu trosglwyddo i Wavehill.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data? Y sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd UCC.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i UCC gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei allu i gyflawni prosiectau a ariennir yn gyhoeddus. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn i wella'r ffordd y caiff y Prosiect Porthladdoedd Ddoe a Heddiw ei redeg yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol? Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad amodau, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i UCC am hyn a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hyn.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd y wybodaeth yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad y gellir ei gyhoeddi ar wefan UCC. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol? Mae’r arolwg yn ddienw, a bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod casglu data yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt os byddwch yn eu darparu. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r data i UCC na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Eich Hawliau O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r ymchwil hwn, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad i gopi o'ch data;

  • i gofyn i ni i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);

  • Cael eich data ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Iwerddon ar +353-1-639 5689 e-bost: info@oic.ie cyfeiriad: 6 Earlsfort Terrace, Dulyn 2, D02 W773. Neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y DU ar 01625 545 745 neu 0303 1231113, drwy’r wefan www.ico.org.uk , neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Gwybodaeth Bellach Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarparwyd fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan UCC neu’n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â: Aoife Dowling aoife.dowling@ucc.ie Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data UCC trwy ysgrifennu i: Aoife Dowling Ports Past and Present Project School of English, University College Cork O’Rahilly Building Cork Ireland

コメント


bottom of page