Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o Wasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF). Nod y gwerthusiad hwn yw deall rheolaeth a chyflwyniad Gwasanaethau Cymorth Busnes a ariennir gan ERDF yng Nghymru, asesu ei berfformiad yn erbyn ei allbynnau ac amcanion datganedig ac archwilio canlyniadau ac effaith ehangach. Fel rhan o'r gwerthusiad yma rydym am siarad â sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr.
Nod y cyfweliad yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr ar ba mor dda y cafodd y rhaglen ei rhedeg, i ba raddau y mae’r rhaglen wedi cyflawni ei nodau, a sut y gallai’r rhaglen esblygu.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil yma efo Wavehill yw Oliver Allies
E-bost: oliver.allies@wavehill.com
Rhif Ffôn: 01545 571711
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth yma?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt i Wavehill. Nodwyd eich sefydliad a’ch manylion cyswllt o ddata a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Busnes, neu drwy adroddiadau cynnydd prosiect a gyflwynwyd gan sefydliadau buddiolwyr. Yn ystod y prosesau hyn, gwnaethoch gytuno y gallai sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy gael mynediad at eich manylion, er mwyn cynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os ydych dim eisiau cymryd rhan neu dderbyn mwy o e-byst atgoffa yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad yma y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.
Nid yw'r ymchwil yma yn gofyn am unrhyw ddata personol ychwanegol. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil ni fyddwn yn ei ddefnyddio i’ch adnabod o’r ymatebion a roddwch, nac i gysylltu eich hunaniaeth â nhw. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei dileu a bydd canlyniadau'n cael eu gwneud yn ddienw.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Y Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r Gwasanaethau Cefnogi Busnes.
Penderfynu pa Wasanaethau Cefnogi Busnes ddylai barhau yn y dyfodol.
Deall y ffyrdd gorau i Lywodraeth Cymru gynorthwyo Busnesau a chefnogi strategaethau economaidd rhanbarthol neu drefol yng Nghymru.
Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder ‘storfa ddata diogel’ ar weinydd Wavehill. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Wavehill. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.
Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad rheolau, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio'r data i gynhyrchu adroddiad i Lywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod dadansoddi data yn cael ei ddileu tri mis ar ôl diwedd y contract.
Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r set ddata i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi. Yn benodol, bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill yn cael eu dileu o'r set ddata hon.
Hawliau Unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r prosiect hwn. Mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at gopi o’ch data chi;
I fynnu ein bod ni’n cywiro camgymeriadau yn y data hwnnw;
I (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu;
I fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’; ac
I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut caiff y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech chi arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:
Andrew Booth (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru)
E-bost: andrew.booth@gov.wales
Rhif Ffôn 03000 250282
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.
Comments