top of page
Writer's pictureStuart Merali-Younger

Gwerthusiad o'r Rhaglen Rhwydweithiau Cyfoed: Mewnwelediadau i Gymorth BBaChau a Gwydnwch

Open laptop screen with five people having a virtual meeting. They are different genders and heritage

Mae'r Rhaglen Rhwydweithiau Cyfoed yn fenter genedlaethol a lansiwyd ym mis Awst 2020 i gefnogi busnesau gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i gryfhau busnesau bach a chanolig ledled (BBaCh) Lloegr. Darparwyd y rhaglen drwy’r 38 Partneriaeth Menter Leol (LEPs) a’i nod oedd gwella cynhyrchiant a gwytnwch busnesau bach a chanolig. 

 

Mabwysiadodd y rhaglen ddull "wedi'i ddylunio'n genedlaethol, wedi'i ddarparu'n lleol," gan deilwra ei darpariaeth i ddiwallu anghenion busnes a strwythurau cymorth lleol. Cafodd BBaCh eu grwpio i garfannau gan eu LEP lleol er mwyn cymryd rhan mewn Setiau Dysgu Gweithredu (ALS) rhithiol ochr yn ochr â diwrnod a hanner o hyfforddiant wyneb yn wyneb un-i-un. Addaswyd darpariaeth y rhaglen hon i gefnogi BBaCh mewn ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil pandemig Covid-19. Daeth y cynllun i ben ym mis Mawrth 2022. 

 

Comisiynwyd Wavehill, mewn partneriaeth â BMG a'r Ganolfan Ymchwil Menter, i werthuso ail flwyddyn y Rhaglen Rhwydweithiau Cyfoed yn ystod 2021–22. Gwerthuswyd perfformiad y rhaglen ar draws gwahanol feysydd LEP, adolygwyd ei mecanweithiau cyflawni, a phrofwyd y theori newid oedd yn sail i'w hamcanion. Un o brif amcanion y gwerthusiad oedd penderfynu a gyflawnodd y rhaglen ei chanlyniadau arfaethedig, megis gwell cynhyrchiant a gwytnwch busnesau bach a chanolig, ac asesu dylanwad y rhaglen ar ymddygiad busnes. Daeth canlyniadau pellach i’r amlwg sy'n gysylltiedig â chefnogaeth cymheiriaid i BBaCh oherwydd roedd angen i’r rhaglen addasu mewn ymateb i’r pandemig. Roedd y canfyddiadau hefyd yn cynnig tystiolaeth i lywio penderfyniadau cyllido yn y dyfodol a dylunio mentrau tebyg. 


Datgelodd y gwerthusiad fod y rhaglen yn hynod effeithiol o ran darparu cymorth wedi'i deilwra i BBaCh, yn enwedig yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd. Drwy gyfuno dyluniad cenedlaethol cadarn â darparieth leol hyblyg, aeth y rhaglen i'r afael ag anghenion amrywiol busnesau ledled Lloegr yn llwyddiannus. Nododd y gwerthusiad fod ei ddull wedi cael derbyniad da gan bartneriaid darparu cenedlaethol a lleol, a oedd yn canmol y cydbwysedd rhwng dylunio rhaglenni canolog a recriwtio a darpariaeth leol. Roedd ei ddefnydd o ddysgu cydweithredol a hyfforddiant personol yn galluogi cyfranogwyr i wella eu cynhyrchiant, addasu i heriau newydd, a datblygu gwytnwch hirdymor.  

 

Mae'r mewnwelediadau o werthusiad Wavehill yn tanlinellu gwerth y model "wedi'i ddylunio'n genedlaethol, wedi'i ddarparu'n lleol" wrth sicrhau cydbwysedd rhwng cadw safonau rhaglenni cyson a gallu i addasu i gyd-destunau lleol. Disgwylir i'r canfyddiadau hyn arwain datblygiad mentrau cymorth busnes yn y dyfodol, gan sicrhau buddion parhaus i fusnesau bach a chanolig a'r economi ehangach. 


Comments


bottom of page