Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o Weithrediadau SMART Suite a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae pob Gweithrediad yn cynnig gwahanol fathau o gymorth neu gyllid i BBaChau Cymru a Sefydliadau AU ac AB. Nod y gwerthusiad hwn yw deall rheolaeth a chyflawniad y tri Gweithrediad SMART a ariennir gan ERDF (y Gyfres), asesu eu perfformiad yn erbyn eu hallbynnau a'u hamcanion ac archwilio canlyniadau ac effaith ehangach.
Fel rhan o'r gwerthusiad hwn rydym yn dymuno siarad â sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr drwy gynnal cyfweliadau un-i-un a chyfweliadau grŵp. Nod y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau gan sefydliadau rhanddeiliaid a buddiolwyr ar ba mor dda y cafodd y rhaglen ei rhedeg, i ba raddau y mae'r rhaglen wedi cyflawni ei nodau, a sut y gallai'r rhaglen esblygu.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies
E-bost: oliver.allies@wavehill.com
Rhif ffôn: 01545 571711
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt i Wavehill (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn). Cafodd eich sefydliad a’ch manylion cyswllt eu nodi o ddata a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r broses ymgeisio am gymorth SMART Suite, neu drwy adroddiadau cynnydd prosiect a gyflwynwyd gan sefydliadau buddiolwyr. Yn ystod y prosesau hyn, gwnaethoch gytuno y gallai sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy gael mynediad at eich manylion, er mwyn cynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal o wasanaeth SMART Suite.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael derbyn mwy o e-byst atgoffa yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn; gan gynnwys cysylltu â chi i gymryd rhan yn y cyfweliad neu'r grŵp ffocws a gwirio trawsgrifiad y grŵp ffocws neu'r cyfweliad (os ydych wedi cymryd rhan) i sicrhau eich bod yn hapus â'r ffordd y cafodd ei ddienw.
Nid yw'r ymchwil hwn yn angen unrhyw gasgliad o ddata personol ychwanegol oddi wrthych, heblaw am eich delwedd os ydych yn cytuno i'r grŵp ffocws neu'r cyfweliad gael ei recordio ar fideo.
Efallai y byddwn yn dymuno recordio'r grŵp ffocws neu gyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r grŵp ffocws neu'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon iddo gael ei recordio. Dim ond os mae neb yn gwrthwynebu y bydd grŵp ffocws yn cael ei recordio (cewch gyfle hefyd i ofyn am gyfweliad unigol). Os bydd y grŵp ffocws neu'r cyfweliad yn cael eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff cyfweliadau neu grwpiau ffocws eu recordio, ac ar gyfer unrhyw nodiadau a gymerwyd o sylwadau sgwrsio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os ydych chi'n cymryd rhan mewn cyfweliad unigol, mae'n bosibl gofyn am i'ch sylwadau gael eu dileu hyd nes y bydd Wavehill yn darparu adroddiad drafft terfynol i Lywodraeth Cymru. Os byddwch yn cymryd rhan yn y grŵp ffocws, ni fyddwn yn cadw eich enw oherwydd natur y grwpiau ffocws (h.y. nid yw bob amser yn glir pwy ddywedodd beth ar y recordiad) ni allwn addo y gallwn ddileu eich holl ddata unwaith y bydd y grŵp ffocws wedi ei gwblhau.
Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?
Sail gyfreithlon prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:
• Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r cymorth SMART Suite.
• Penderfynu pa wasanaethau SMART Suite ddylai barhau yn y dyfodol.
• Deall y ffyrdd gorau i Lywodraeth Cymru helpu i feithrin gallu ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu mewn ymchwil a datblygu ac arloesi, a thrwy hynny ddarparu swyddi newydd, a datblygu a masnacheiddio arloesiadau newydd mewn cynnyrch, prosesau a gwasanaethau ledled Cymru.
Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder ‘storfa ddata diogel’ ar weinydd Wavehill. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Bydd gwaith papur y prosiect yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Wavehill. Mae gan Wavehill ardystiad Cyber Essentials.
Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio'r data i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod dadansoddi data yn cael ei ddileu 3 mis ar ôl diwedd y contract.
Eich Hawliau fel Unigolyn
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, mae gennych hawl i:
Cyrchu copi o'ch data eich hun;
Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);
(Mewn rai amgylchiadau) Cael eich ei 'ddileu'; a
Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Keri Nicholls (WEFO, Llywodraeth Cymru)
E-bost: keri.nicholls@gov.wales
Rhif ffôn 03000 628354
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost:DataProtectionOfficer@gov.wales.
Comments