Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill wedi’u comisiynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o Archif Ddarlledu Cymru.
Mae Archif Ddarlledu Cymru yn dod â deunydd darlledu helaeth o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C at ei gilydd, gyda’r nod o’i wneud yn hygyrch i bawb. Rydym yn gofyn i bobl sy’n cyrchu Archif Ddarlledu Cymru lenwi holiadur byr i’n helpu i ddeall pwy sy’n ei ddefnyddio. Mae cymryd rhan yn wirfoddol.
Fel rhan o’r holiadur gofynnir i chi ddarparu manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu i ofyn ychydig o gwestiynau dilynol am eich profiad o ddefnyddio Archif Ddarlledu Cymru. Bydd cymryd rhan yn yr arolwg dilynol yn wirfoddol ac ni fydd darparu eich manylion cyswllt yn eich ymrwymo mewn unrhyw ffordd i gymryd rhan. Dim ond at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg dilynol y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.
Dim ond at ddibenion ymchwil a gwerthuso y bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r holiadur yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i un rhywun i adnabod chi neu'ch sefydliad. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hwn yn nodi unrhyw unigolion na sefydliadau.
Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarperir gennych a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu'r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dr Nikki Vousden efo Wavehill (nikola.vousden@wavehill.com | 01545 277901) neu Einion Gruffudd efo Llyfrgell Genedlaethol Cymru (einion.gruffudd@llgc.org.uk).
Gallwch hefyd gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru trwy e-bostio DataProtectionOfficer@gov.wales.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl i:
I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Wavehill.
Ei gwneud yn ofynnol i Wavehill gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau).
(Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' .
Cysylltwch â Dr Nikki Vousden os dymunwch wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheolydd annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Internal only. Ref [687-22]
Comments