Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill yn cynnal arolwg ar ran Cyngor Sir Abertawe. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i helpu Cyngor Sir Abertawe i werthuso safbwyntiau cyffredinol ailddatblygu safle Old Copperworks ym Morfa Hafod, yn ogystal â'r effeithiau ar ddealltwriaeth o dreftadaeth leol a buddion economaidd a grëwyd.
Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r arolwg yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion dadansoddi ystadegol ac ymchwil yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.
Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis i gwblhau'r adolygiad. Mae eich atebion i'r arolwg wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cyswllt hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Charlie Bagley (Charlie.bagley@wavehill.com) neu Tracy Nichols (Tracy.nichols@swansea.gov.uk)
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Gyngor Sir Abertawe.
Ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Abertawe gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
(Mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data.
(Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data ei 'ddileu'.
Cysylltwch â Chyngor Sir Abertawe os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.
Comments