Cynlluniwyd yr arolwg hwn gan Wavehill Cyf. a'i adeiladu yn Qualtrics. Mae Wavehill yn gwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd sy'n cydnabod pwysigrwydd darparu gwefan, offer arolwg a fformatau cyfathrebu sy'n hygyrch i bob defnyddiwr. Mae Qualtrics yn ddarparwr blaenllaw o offer arolygu sy'n casglu mewnwelediadau gan bobl ledled y byd.
I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd wefan Wavehill, gweler Datganiad Hygyrchedd gwefan Wavehill.
Nodweddion hygyrch yn ein harolwg
Fel rhan o'r broses ddylunio, rydym wedi ystyried egwyddorion dylunio cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys:
Defnyddio paled lliw sydd wedi'i optimeiddio i fodloni safonau AAA
Cael hypergysylltiadau defnyddiol a phriodol
Sicrhau defnydd priodol o Alt Text ar draws yr arolwg
Mae'r ymarferoldeb canlynol wedi'i chynnwys yr arolwg:
newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
Y gallu i chwyddo i mewn i'r testun hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin a heb i'r cynnwys gael ei gwtogi na gorgyffwrdd
llywio'r rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
llywio'r rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
gwrando ar y rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Pa mor hygyrch yw'r arolwg hwn?
Gan ddefnyddio offer Adolygiad Arbenigol Qualtrics, rydym wedi asesu’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg hwn ac wedi penderfynu bod y rhan fwyaf o gwestiynau’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.0 safonau hygyrchedd AA.
Mae nifer fach o gwestiynau blwch testun penagored a chwestiynau arddull tabl matrics nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn. Maent wedi'u cynnwys oherwydd y data yr ydym yn edrych i'w gasglu ond maent yn ddewisol i ddefnyddwyr eu cwblhau.
Adborth a gwybodaeth gyswllt.
Os nad ydych yn gallu cwblhau’r arolwg neu os hoffech ffordd arall o gynnal yr arolwg, er enghraifft galwad ffôn, gallwch gysylltu efo ni:
E-bostio enquiry@wavehill.com
Ffoniwch 0330 1228658
Neu ewch i'n gweld yn un o'n swyddfeydd.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r arolwg hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr arolwg hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â enquiry@wavehill.com.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr arolwg hwn
Rydym yn ymdrechu i'r arolwg hwn gydymffurfio â safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Rydym yn profi ein cwestiynau arolwg gan ddefnyddio'r swyddogaeth Adolygiad Arbenigol o fewn Qualtrics yn ogystal â'r canllawiau WCGA diweddaraf sydd ar gael, y gellir eu defnyddio'n briodol ar gyfer yr arolwg hwn.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 9 Chwefror 2023.
Comments