top of page
Writer's pictureWavehill

Gwerthusiad ARFOR 2: Hysbysiad Preifatrwydd Cyfranogwyr Llwyddo’n Lleol

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mae Wavehill yn cynnal gwerthusiad o raglen ARFOR 2 ar ran Cyngor Gwynedd. Fel rhan o'r gwerthusiad, gofynnir i gyfranogwyr unigol gwblhau arolwg i roi eu hadborth.


Mae ARFOR yn rhaglen a gyflwynir ar y cyd gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n ceisio defnyddio datblygu menter ac economaidd i gefnogi cadarnleoedd Cymru ac, o ganlyniad, cynnal yr iaith. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i lywio'r gwerthusiad trwy ddeall y profiadau ac unrhyw ganlyniadau i gyfranogwyr unigol.


Darparwyd eich manylion cyswllt gan un o'r partneriaid sy'n gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen yn seiliedig ar yr ymrwymiad i gymryd rhan yn y gwerthusiad a wnaethoch yn ystod y broses ymgeisio. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r arolwg yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod / eich busnes neu'ch cyflogwr. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Gellir cyhoeddi adroddiadau a gynhyrchir fel rhan o'r broses hon ac ymddangos ar wefan ARFOR neu wefan neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill (megis Arsyllfa a BWR ARFOR). Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion heb eu caniatâd penodol.

 

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn chwe mis i ddiwedd y rhaglen (sydd i fod i fod ym mis Medi 2025 ar hyn o bryd). Mae eich atebion i'r arolwg wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cysylltiad hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Ioan Teifi, Rheolwr Prosiect y gwerthusiad yn ioan.teifi@wavehill.comneu Anwen Davies, Rheolwr Prosiect y rhaglen yn anwendavies@gwynedd.llyw.cymru.

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan raglen ARFOR.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gwynedd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • I (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei ddileu.

 

Cysylltwch ag Anwen Davies os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth

1.      Beth yw'r Gwerthusiad ARFOR 2?

Mae Wavehill wedi'i gomisiynu i gynnal gwerthusiad o raglen ARFOR 2 sy'n cynnwys y gefnogaeth a ddarperir drwy 'Llwyddo'n Lleol'. Mae ARFOR yn rhaglen a gyflwynir ar y cyd gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n ceisio defnyddio datblygu menter ac economaidd i gefnogi cadarnleoedd Cymru ac, o ganlyniad, cynnal yr iaith. Mae'r gwerthusiad yn cynnwys yr amcanion canlynol:

 

  • GWERTHUSO – gwerthusiad o'r Rhaglen a'r Prosesau yn gyffredinol o ran - a yw'r ffrydiau gwaith wedi ymateb i'r Amcanion Strategol; gwerthuso rheolaeth a phrosesau'r Rhaglen a ffrydiau Gwaith unigol; angen dangos yr effaith y mae'r ffrydiau gwaith wedi'i chael ar yr economi a'i chysylltedd â'r Iaith.

  • MONITRO – angen creu fframwaith i fonitro'r ffrydiau gwaith o fewn y Siroedd Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn lleol ac yn rhanbarthol. Mewn cydweithrediad â Grŵp y Swyddogion, Bwrdd ARFOR a defnyddio'r gwaith o'r gwerthusiad cychwynnol - i nodi fframwaith sy'n eu galluogi i fonitro'r cynnydd o ran datblygu'r economi a hyrwyddo'r Gymraeg a mynd i'r afael ag allbynnau'r Rhaglen.

  • DYSGU – fel rhan o'r comisiwn rydym yn cynnal ymchwil i archwilio'r cysylltedd rhwng yr Economi a'r Iaith o ran Rhaglen ARFOR ond hefyd ymchwil sy'n mynd rhagddo yn y Rhanbarth gan randdeiliaid e.e. prifysgolion, busnesau, trydydd sector ac ati ac i weld sut y gellir rhannu'r dysgu hwn yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys angen creu strwythur ar gyfer rhannu dysgu ac arfer da ar draws y Rhanbarth ac yn ehangach.

 

2.      Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwybodaeth amdanoch chi'ch hun

  • Gwybodaeth am y gefnogaeth a dderbyniwyd

  • Boddhad gyda'r gefnogaeth

  • Unrhyw ganlyniadau o'r gefnogaeth

 

3.      Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

Mae'r arolwg yn casglu rhywfaint o ddata personol ar gyfer yr holl ymatebwyr megis: eich enw, cyfenw, oedran a rhyw.

 

4.      Am ba hyd y bydd y data personol yn cael ei gadw?

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn chwe mis i ddiwedd y rhaglen (sydd i fod i fod ym mis Medi 2025 ar hyn o bryd).


5.      Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd? 

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu eich data yn seiliedig ar eich caniatâd.

 

6.      Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Defnyddir y data i lywio ein gwerthusiad o raglen ARFOR 2.

Fel unigolyn sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy'r rhaglen, hoffem ddeall mwy am eich profiad ac unrhyw ganlyniadau yr ydych wedi'u derbyn hyd yn hyn. Mae eich adborth yn amhrisiadwy o ran ein galluogi i ddeall effaith a phwysigrwydd rhaglen ARFOR.


7.      Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Dim ond nifer fach o ymchwilwyr yn Wavehill fydd â mynediad at y data dienw ac mae gan Wavehill weithdrefnau a systemau i gadw'r data hwnnw'n ddiogel. Gellir defnyddio modelau dysgu iaith a meddalwedd trydydd parti i ddadansoddi'r data hwnnw ond mae'r rhain i gyd yn cydymffurfio â safonau GDPR y DU. Bydd yr holl ddata personol a gesglir drwy'r arolwg yn cael ei ddileu o fewn 6 mis i ddiwedd y contract. Bydd fersiwn ddienw o'r data hwnnw yn cael ei rannu gyda Chyngor Gwynedd ar ffurf adroddiad.



Int. Ref. 748-23





Related Posts

コメント


コメント機能がオフになっています。
bottom of page