top of page

Diwrnod Strategaeth a Datblygu Staff Wavehill Haf 2023

Writer's picture: WavehillWavehill

Yn gynharach y mis hwn roedden wedi cyfarfod fel cwmni cyfan ar gyfer ein Diwrnod Strategaeth a Datblygu Staff Blynyddol. Mae'r Diwrnod Strategaeth a Datblygu Staffhyn yn rhan bwysig o ddiwylliant Wavehill, ac fel cwmni sy'n eiddo i weithwyr mae'n ein galluogi ni i sicrhau y gall staff roi adborth a mewnbwn i helpu i lunio a gwreiddio cyfeiriad a gwerthoedd strategol ein cwmni.


Yn yr un modd rydym yn helpu ein cleientiaid i ddatblygu eu ffocws a'u cynllunio strategol, fel cwmni cyfan aethom ati i gynnal gweithdy Theori Newid. Roedd yn gyfle gwych i archwilio pwy ydym ni fel cwmni a 'sut' yr ydym yn mynd i gyflawni hyn. Wnaeth y cydweithwyr i gyd rhoi pwys mawr ar sut mae ein gwerthoedd yn gyrru ein diwylliant a'n ethos. Yr hyn a ddaeth i'r amlwg hefyd oedd pwysigrwydd ein heffaith, ar gyfer y prosiectau rydym yn gweithio arnynt ac ar gyfer ein cleientiaid. Fe wnaethom hefyd archwilio dylanwad ein heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach fel cwmni. Bydd hyn yn bwydo i mewn i ddatblygiad ein cynllun strategol diweddaraf a fydd yn cael ei rannu â staff yn ystod Diwrnod Strategaeth a Datblygu Staff.


Mewn newid i'r blynyddoedd blaenorol, byddwn yn cael un Diwrnod Strategaeth a Datblygu Staff ar ddiwedd y Gwanwyn ac un yn gynnar yn yr Hydref. Mae'n gyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â chydweithwyr ac adeiladu cysylltiadau cryfach ar draws y cwmni. Er ein bod i gyd yn gweithio'n aml ar draws swyddfeydd, yn aml yn cyfuno gwaith hybrid a swyddfa yn Aberaeron, Bryste, Llundain a Newcastle, cytunwyd bod adeiladu'r ymdeimlad hwn o gysylltiad a chyfalaf cymdeithasol yn parhau i fod yn nod pwysig o Ddiwrnodau Strategaeth a Datblygu Staff Wavehill.




Comments


bottom of page