Yn 2019 lansiodd Swyddfa Myfyrwyr (OfS) y rhaglen Gystadleuaeth Her Iechyd Meddwl. Roedd y rhaglen hon yn cyflenwi cyllid i 10 darparwr addysg uwch i wella’r gefnogaeth iechyd meddwl i fyfyrwyr, gan ganolbwyntio ar bontio i fyfyrwyr, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth.
Dros y tair blynedd ddiwethaf mae Wavehill wedi bod yn cynnal gwerthusiad annibynnol o’r Gystadleuaeth Her Iechyd Meddwl ar ran y Swyddfa Myfyrwyr. Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr allbynnau gwerthuso terfynol bellach ar gael. Mae hyn yn cynnwys nifer o adnoddau allweddol ar gyfer sefydliadau, ymarferwyr a’r rhai sy’n gweithio o fewn y sector iechyd meddwl ac yn cynnwys:
Mae’r Adroddiad Gwerthuso Cystadleuaeth Her Iechyd Meddwl olaf yn edrych ar i ba raddau y gwnaeth y Gystadleuaeth Her Iechyd Meddwl gyrraedd ei nodau. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar yr heriau a’r ffactorau galluogi gallai darparwyr addysg uwch wynebu wrth ddatblygu mentrau iechyd meddwl arloesol i fyfyrwyr.
Crynodeb gweithredol o Adroddiad Gwerthuso Cystadleuaeth Her Iechyd Meddwl.
Papur Cyd-greu mentrau iechyd meddwl gyda myfyrwyr. Mae hyn yn archwilio gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â chyd-greu mentrau iechyd meddwl gyda myfyrwyr.
Papur Beth sy'n gweithio wrth Gefnogi Iechyd Meddwl Myfyrwyr. Mae'r papur hwn ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr addysg uwch proffesiynol. Er mwyn cynorthwyo sefydliadau addysg uwch wrth lunio eu darpariaeth eu hunain mae'n rhoi mwy o fanylion ar bob un o'r prosiectau a ariennir, gan gynnwys ffactorau llwyddiant yn ogystal â scalability posibl pob prosiect.
Mae adnoddau ychwanegol ac astudiaethau achos gan sefydliadau addysg uwch ledled Lloegr. I ddysgu mwy am waith cynharach Wavehill ar y rhaglen Cystadleuaeth Her Iechyd Meddwl a'n gwaith gwerthuso, gweler ein blog diweddar.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar y gwaith gwerthuso hwn cysylltwch â Chloe Maughan a Simon Tanner.
Comments