Ar fore rhewllyd ym mis Hydref, gwisgodd ein Hymgynghorydd Ymchwil Şimal Altunsoy ei dillad cynhesaf a'i hesgidiau cerdded caletaf. Roedd hi’n cymryd rhan mewn ymgyrch glanhau trefol gyda'r nod o leihau sbwriel a gwella'r estheteg ar hyd Parc Glanyrafon Gateshead ger yr Afon Tyne yn Newcastle. Ymunodd cydlynydd y Tîm Gwyrdd, gynrychioli'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, nifer o wirfoddolwyr lleol, a gohebydd BBC efo hi.
Daeth Şimal yn rhan o’r gweithgaredd yma efo’r Tîm Gwyrdd Sadwrn fel rhan o waith maes a gyflawnwyd o dan werthusiad annibynnol Wavehill o brosiect adfywio Tyne Derwent Way. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu a gwella ardaloedd cyfagos Afonydd Tyne a Derwent, sy'n ymestyn o Ganolfan Dreftadaeth y Santes Fair yn y Dwyrain i Gibside yn y De-orllewin.
Mae'r prosiect yn ceisio cynnwys y gymuned i gyd-gynhyrchu'r hyn sydd ar gael ar hyd glannau afonydd Tyne a Derwent. Ei nod yw cydweithio â chymunedau lleol yn ogystal â phartneriaid fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Newcastle i greu gofod awyr agored ffyniannus i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.
Edrychwch ar Şimal am y tro cyntaf ar y BBC: Graffiti-hit Gateshead park being cleaned up by 'merry band' - BBC News
コメント