top of page
Writer's pictureWavehill

Cynllun Ailwefru - Hysbysiad Preifatrwydd

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth

Mae Wavehill yn cynnal arolwg i helpu M-SParc i ddadansoddi perfformiad eu rhaglen  Cynllun Ailwefru.


Mae'r holl unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod yr arolwg a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.

 

Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r arolwg yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod chi neu'ch sefydliad. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.

 

Caiff eich data personol ei ddileu o fewn 6 mis.  Mae eich atebion i'r arolwg wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cysylltiad hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rhys Maher yn Wavehill (rhys.maher@wavehill.com).

 

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan M-SParc.

  • Ei gwneud yn ofynnol i M-SParc gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

 

Cysylltwch â M-SParc os ydych am wneud unrhyw un o'r pethau hyn.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

 

Mwy o wybodaeth


Beth yw’r Cynllun Ailwefru?

Cefnogaeth wedi'i thargedu at fusnesau yng Ngwynedd i'w helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at adfer eu gweithgareddau busnes naill ai drwy adfer eu cyn-fusnes, ymestyn neu wella eu gweithgareddau presennol neu i amrywiaeth i sectorau eraill gan gynnwys:


Adolygiad o'r busnes o ran sgiliau, offer ac eiddo

  • Adnabod defnyddiau newydd neu well ar gyfer y sgiliau, offer, eiddo a nodwyd

  • Mynediad at gyfleoedd ariannu

  • Nodi unrhyw fylchau sgiliau, ac yn uniongyrchol tuag at hyfforddiant ac achrediad sydd eisoes yn bodoli yn y sector, gan eu cyfeirio at ffynonellau priodol ar gyfer cyllid os oes angen.

  • Cyfeirio busnesau tuag at arian priodol i brynu offer newydd.

  • Nodi cyfleoedd ar gyfer clystyru i annog microfusnesau i gydweithredu os na allant ddarparu gwasanaethau yn unigol.

 

Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynnydd yn erbyn rhwystrau i dwf

  • Ansawdd y gefnogaeth a dderbyniwyd

  • Effeithiau'r gefnogaeth ar y busnesau (e.e. trosiant a chyflogaeth)

 

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw. Mae Wavehill yn defnyddio data personol a ddarperir i hwyluso'r cyfweliad hwn, er enghraifft, eich enw a'ch manylion cyswllt.


Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn dileu data personol 6 mis ar ôl i'r contract ddod i ben. Bydd Wavehill dim ond yn rhannu gwybodaeth ddienw â M-SParc nac unrhyw sefydliadau eraill.


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd?

Mae'r gwerthusiad yn galluogi M-SParc i ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol.

 

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi er mwyn galluogi'r cyngor i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y cymorth a ddarparwyd. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cymorth sydd ar gael a sut y dylai cymorth i fusnesau ddatblygu yn y dyfodol. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

 

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal y cyfweliadau. Byddant yn dileu data personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect.


Ni fydd M-SParc yn cael mynediad at ddata personol a gesglir drwy'r arolwg nac unrhyw recordiadau o alwadau neu nodiadau ysgrifenedig o gyfweliadau manwl. Bydd recordiadau yn cael eu dileu ar ôl gorffen trawsgrifio a bydd nodiadau'n cael eu dileu o fewn chwe mis i ddiwedd y contract.


Int. Ref. (789-24)



Related Posts

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page