Daeth arweinwyr y byd, arbenigwyr ar hinsawdd, ac ymgyrchwyr amgylcheddol i Glasgow ar gyfer COP26, ar gyfer uwchgynhadledd nad oedd fel petai’n caniatáu tir canol rhwng llwyddiant a methiant ar fater newid yn yr hinsawdd. Bu’r boblogaeth fyd-eang sy’n pryderu am yr hinsawdd yn gwylio’n nerfus, yn y gobaith y gellid dod o hyd i’r ewyllys a’r gallu gwleidyddol i ddatblygu atebion a phenderfyniadau cyffredin i helpu i lywio ein llwybr tuag at sero net byd-eang erbyn 2050.
Yn optimistaidd, fy synnwyr i yw fod y brys, a’r ewyllys gwleidyddol dros newid, yn tyfu ac y bydd yn parhau i wneud hynny. Fodd bynnag, efallai mai her fwyaf ein cenhedlaeth o ran polisi cyhoeddus yw gallu’r DU a gweddill y byd i ddod o hyd i’r atebion a all gyflawni hyn, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n fforddiadwy i bob gwlad.
Mae angen lleihau neu ddileu allyriadau carbon o’r gwres sy’n ein cartrefi a’n swyddfeydd, y tanwydd sy’n ein ceir, a’r hediadau a gymerwn wrth fynd ar ein gwyliau. Yn yr un modd hefyd, o’r gorsafoedd pŵer, y ffatrïoedd a’r diwydiannau sy’n cynhyrchu’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddiwn bob blwyddyn.
Mae amrywiaeth y defnyddiau ynni hyn a’r rhanddeiliaid dan sylw yn enfawr, ond yn gynyddol felly hefyd yr ystod o atebion posibl sydd bellach yn cael eu datblygu. Fel y mae llawer o arbenigwyr eisoes yn nodi, mae gennym bellach y dechnoleg, i raddau helaeth, a allai ein galluogi i gyflawni sero net yn y DU. Yr her yw fod llawer ohono’n dal yn ddrud, ac nad yw eto wedi’i fireinio na’i brofi’n ddigonol ar raddfa. Felly, mae sicrhau atebion di-garbon dibynadwy, y gellir eu graddio, am gost fforddiadwy, yn hanfodol i’r DU os ydym am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050.
Gall arferion monitro a gwerthuso cadarn herio rhaglenni a helpu i sicrhau mwy o effeithlonrwydd, gan helpu i ateb cwestiynau allweddol megis:
· Pa bolisïau a rhaglenni sydd fwyaf effeithiol o ran sicrhau arbedion carbon ar gyfer gwahanol ddefnyddiau ynni?
· Pa sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r rhain?
· Pa lefel o gymhellion neu gymorthdaliadau sydd eu hangen i annog pobl i newid i gynhyrchion a thechnolegau sero net, er enghraifft ceir trydan, neu bympiau gwres yn eu cartrefi?
· I ba raddau mae rhaglenni’n ysgogi marchnadoedd carbon isel yn effeithiol, mewn ffordd sy’n helpu i’w gwneud yn fwy cystadleuol o ran cost ac yn eu galluogi i dyfu?
Bydd angen ymyriadau ar draws pob cangen o lywodraeth, o adrannau llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i awdurdodau lleol a chyfunol er mwyn lleihau allyriadau ym meysydd defnydd domestig, masnachol, diwydiannol a thrafnidiaeth ac o ran cynhyrchu ynni. Mae ymyriadau sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu cyflawni, ac os ydym am feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sy’n gweithio wrth bontio i ddulliau sero net ar gyfer pob math o ddefnydd o ynni, mae taer angen monitro a gwerthuso polisïau a rhaglenni o ansawdd uchel, ac mae angen rhannu’r gwersi, mor agored â phosibl.
Mae arferion gwerthuso hefyd yn bwysig er mwyn helpu i nodi unrhyw risg o ganlyniadau anfwriadol sy’n gallu deillio o rai polisïau. Un o’r enghreifftiau a gafodd y cyhoeddusrwydd mwyaf oedd y Northern Ireland Renewable Heat Incentive, a ddaeth i’r amlwg fel y sgandal Cash for Ash. Fe wnaeth rhai ymgeiswyr chwarae’r system a hawlio cymorthdaliadau ar gyfer cynhyrchu gwres adnewyddadwy nad oedd ei angen arnynt, er mwyn elwa ohono. Bydd dysgu gwersi o werthuso’r ffordd y caiff polisi ei weithredu, a defnyddio hyn i fireinio cynlluniau a mynd i’r afael â chanlyniadau anfwriadol, yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau polisïau effeithiol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Yn ogystal â cheisio bod yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, mae’r DU yn arwain o ran ansawdd a chadernid ymchwil a gwerthuso wrth lunio polisïau. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM a’r Llyfr Magenta, sy’n llywio gwaith sy’n ymwneud ag arfarnu a gwerthuso polisi, yn uchel eu parch ac yn cael eu defnyddio gan lunwyr polisi mewn gwledydd ledled y byd. Gall gwerthuso rhaglenni sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn y DU, a hynny ar bob lefel, ddarparu tystiolaeth nid yn unig i gefnogi’r nifer fawr o drosglwyddiadau y bydd angen iddynt ddigwydd yn y DU yn y blynyddoedd a’r degawdau i ddod, ond gallai hefyd ddarparu tystiolaeth werthfawr sy’n cefnogi rhannau eraill o’r byd gyda’u targedau, ac yn y pen draw gyda’r her fyd-eang a rennir o gyflawni sero net.
Mae Wavehill yn ymgynghoriaeth ymchwil a gwerthuso arbenigol – rydym yn gweithio’n rheolaidd i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyfunol, a phartneriaethau menter lleol ynghylch gwerthuso rhaglenni sy’n cefnogi ynni adnewyddadwy ac yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Rydym yn teimlo’n angerddol o blaid yr angen am werthuso rhaglenni’n glir ac yn gadarn, a’r gwerth hanfodol y gall hynny ei roi wrth lunio polisïau’n effeithiol.
Os hoffech wybod mwy am ein gwaith yn y maes hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â
Opmerkingen