top of page
Writer's pictureWavehill

Cofleidio Ecwiti – beth mae hyn yn ei olygu i Wavehill

Mae'r thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (IWD) yn canolbwyntio ar gofleidio ecwiti. Er y byddwn yn gweld ein porthiannau cyfryngau cymdeithasol yn llawn dathlu menywod, hoffem ganolbwyntio'n benodol ar y neges real a phwysig iawn y mae thema eleni o gwmpas hyrwyddo ecwiti yn cyfleu.


Cofleidio tegwch yw cydnabod nad yw pawb yn dechrau o'r un sefyllfa. Mae'n cydnabod bod gan unigolyn amgylchiadau gwahanol ac yn edrych i fynd i'r afael ag anghydbwysedd etifeddol i wneud pethau'n decach.


Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn myfyrio ar beth mae ecwiti yn ei olygu i ni fel cwmni, gan edrych ar sut rydym yn ymgorffori'r cysyniad hwn o fewn ein harferion gwaith, ein hymchwil ac o fewn diwylliant ein cwmni. Fel cwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr mae'r atebolrwydd hwn yn biler craidd o Wavehill. Rydym yn cydnabod ein bod ar daith o ddysgu y gellir ei grynhoi orau trwy ein hymrwymiad i ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant (ED&I). Mae rhai prosesau ehangach yr ydym wedi mynd i'r afael â nhw yn cynnwys:


  • Drwy ein harferion gwaith a'n prosiectau rydym yn cymryd agwedd ystyrlon a chynhwysol tuag at ein hymchwil gymdeithasol i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, a bod cymunedau anodd i'w chyrraedd yn cael eu cynrychioli.

  • Trwy ein diwylliant gwaith rydym newydd gymeradwyo pythefnos naw diwrnod i gefnogi gwell cydbwysedd bywyd-gwaith i'n staff ac rydym yn adolygu ein strategaethau recriwtio a chadw trwy lens Ecwiti, Amrywiaeth a chynhwysiant (ED&I).

  • O safbwynt y gymuned rydym wedi addo 1% o'n helw blynyddol i achosion cymunedol dethol a byddwn yn rhannu manylion am hyn yn y dyfodol buan.

Cadwch lygad ar sut rydym yn parhau i symud ymlaen trwy ein taith ED&I a chysylltwch efo ni os ydych am sgwrsio trwy'r dulliau yr ydym yn eu cymryd.


Comments


bottom of page