top of page
Writer's pictureWavehill

Arolwg Busnesau Cymdeithasol 2022: Datganiad Preifatrwydd Data

Sut rydyn ni'n dal ac yn prosesu'ch gwybodaeth 

Penodwyd Wavehill gan Cwmpas i gynnal arolwg o'r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Pwrpas yr ymarfer hwn yw deall maint a natur   y sector yn ogystal â rhai o'r uchelgeisiau, yr heriau a'r anghenion cymorth.

Fel rhan o'r broses hon, mae Wavehill yn ceisio arolygu cymaint o fusnesau cymdeithasol â phosib. Derbyniwyd eich enw a manylion y busnes o'r rhestr o fusnesau cymdeithasol sydd gan Cwmpas neu drwy ffynonellau gwybodaeth eraill sydd ar gael i'r cyhoedd.

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y defnyddiwyd y data rydych chi'n darparu. Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion i'r cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion heb eich cydsyniad yn ymlaen llaw.

  

Mae'n bwysig nodi hefyd nad yw'r tîm sy'n cynnal yr ymchwil yn gweithio i Cwmpas. Astudiaeth ymchwil annibynnol yw hon.

  

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon cyn pen 24 mis ar ôl diwedd yr ymchwil (Ebrill 2024).

  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Ioan Teifi, sy'n arwain yr ymchwil (ioan.teifi@wavehill.com) neu Jude Cook o Cwmpas (jude.cook@cwmpas.coop)  

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan Cwmpas.

  • Ei gwneud yn ofynnol i Cwmpas gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.

  • Mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu.

  • (Mewn rhai amgylchiadau) cael eich data eu ‘ddileu’.

Cysylltwch â Jude Cook os ydych chi'n dymuno gwneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennwch i: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth Pellach

1. Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?

Bydd y wybodaeth a roddwch yn rhoi data allweddol am gyflwr y sector yng Nghymru a bydd yn cael ei defnyddio i sicrhau bod datblygiad polisi a gwasanaethau cymorth yn y dyfodol gan Cwmpas a sefydliadau allanol eraill yn seiliedig ar eich anghenion. Pan ddarperir cydsyniad, bydd eich manylion hefyd yn cael eu defnyddio i boblogi cyfeiriadau Cwmpas a sefydliadau eraill.

2.  Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy'r arolwg? 

Mae'r cyfweliad yn canolbwyntio ar ddal gwybodaeth gefndir am eich busnes, gwybodaeth gysylltiedig â masnachu, heriau a wynebir, eich effaith gymdeithasol a pherfformiad busnes, ac anghenion cymorth. 

  

3.Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, nail ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd a gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw. 

  

4. Am ba hyd y cedwir data personol?   

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu 24 mis ar ôl diwedd y contract.

  

5. Beth yw'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd trwy'r arolwg?

Y sail gyfreithiol ar gyfer ymgymryd â’r ymchwil hon a chael eich gwybodaeth gyswllt yw ‘Tasg gyhoeddus’ h.y. mae’r prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd, ac mae gan y dasg sail glir yn y gyfraith.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Cwmpas. Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn wirfoddol. 

6. Beth yw pwrpas prosesu'ch atebion i'r arolwg? 

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil yn unig. Dadansoddir y data i alluogi Cwmpas i ddeall cyflwr y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Defnyddir hwn i sicrhau bod datblygiad polisi a gweithgaredd cymorth yn y dyfodol gan Cwmpas a sefydliadau allanol eraill yn seiliedig ar eich anghenion. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata.

7.  Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd trwy'r arolwg?   

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal yr arolwg.

Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o'r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Dadansoddir y nodiadau hyn gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Cwmpas. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil heb gydsyniad ymlaen llaw ac ni fydd nodiadau'r cyfweliadau yn cael eu rhannu â Cwmpas nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol cyn pen 24 mis ar ôl diwedd y prosiect.

Commentaires


bottom of page