top of page
Writer's pictureEndaf Griffiths

Archwilio rhwystrau i waith ymhlith gofalwyr di-dâl

Ledled Cymru a Lloegr, amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o weithwyr yn darparu 30 awr neu fwy yr wythnos o ofal i deulu neu ffrindiau yn ogystal â gwneud eu swydd gyflogedig. Mae gofalwyr di-dâl yn wynebu amrywiaeth o rwystrau a all ei gwneud yn anodd cydbwyso gwaith gofal â gwaith cyflogedig, ac mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod 44% o ofalwyr yn wynebu anawsterau wrth gyfuno gwaith cyflogedig â gwaith gofal. Yn ogystal â hyn, mae gofalwyr a allai fod yn ystyried dychwelyd i waith cyflogedig, yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am waith.

Ers 2019, mae Wavehill wedi bod yn helpu Carers Trust i werthuso effaith Working for Carers. Yn brosiect cyflogadwyedd sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl a chyn-ofalwyr yn Llundain i symud yn nes at gyflogaeth, mae Working for Carers yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Yn y cyfnod hwn, rydym wedi dysgu llawer am y rhwystrau sy’n ei gwneud yn anodd i ofalwyr gael mynediad at gyfleoedd gwaith â thâl, gan gynnwys y canlynol:


· Dywedodd 68% o ofalwyr wrthym fod diffyg cyfleoedd sy’n cyd-fynd â’u rôl gofalu yn rhwystr iddynt gael mynediad i’r gweithle.

· Dywedodd 1 o bob 3 gofalwr wrthym eu bod yn ei chael yn anodd cael gafael ar ofal amgen er mwyn eu galluogi i gael gwaith.

· Dywedodd 17% o ofalwyr wrthym fod pryderon am stigma yn y gweithle yn rhwystr iddynt ddechrau gweithio.

· Dywedodd bron i 1 o bob 3 gofalwr wrthym fod pryderon ariannol, megis tynnu Lwfans Gofalwr yn ôl, neu fudd-daliadau eraill, wedi ei gwneud yn anodd iddynt gael mynediad i’r gweithle.

Gan adeiladu ar ein canfyddiadau blaenorol, rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn gweithio unwaith eto gyda’r Carers Trust a Working for Carers i weld pa gymorth sydd ei angen ar ofalwyr di-dâl i gael mynediad at weithleoedd ledled y DU, a ffynnu ynddynt.

Cymryd rhan yn ein hymchwil

Er mwyn ein helpu i ddeall y materion a’r rhwystrau y mae gofalwyr yn eu hwynebu ledled Cymru a Lloegr, hoffem glywed gennych:

· os ydych yn ofalwr nawr, neu’n gyn-ofalwr, ac fe hoffech ein helpu i ddeall pa gymorth sydd ei angen ar ofalwyr er mwyn cael gwaith cyflogedig. Llanwch ein harolwg byr Cymorth Cyflogaeth i Ofalwyr.

· os ydych yn ofalwr sydd ar hyn o bryd yn cydbwyso gwaith gofal â gwaith cyflogedig, fe hoffem ddeall yn well beth sydd angen ei wneud i gefnogi gofalwyr yn y gweithle. Llanwch ein harolwg byr Cymorth Cyflogaeth i Ofalwyr.

· os ydych yn gweithio i Ganolfan Gofalwyr, gallwch gymryd rhan drwy ein helpu i fapio pa gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd i ofalwyr ledled y DU.

Bydd ein harolygon ar-lein ar agor tan 4 Ebrill, ac ar ôl y dyddiad hwn byddwn yn cynnal cyfres o weithdai gyda gofalwyr i ddeall mwy am y cymorth yr hoffai gofalwyr ei dderbyn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chloe Maughan.

Ariannwyd y prosiect gan:


Project funded by logos

コメント


bottom of page