Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill yn cynnal arolwg ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC). Rydym yn gofyn i bobl sydd wedi cyrchu Archif Ddarlledu Cymru roi adborth i helpu i ddeall yr effaith y mae'n ei chael. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.
Bydd y data a roddwch yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Bydd yn cael ei gasglu a'i fewnbynnu i'n meddalwedd arolwg, Qualtrics, gan LlGC ac yna ei brosesu a'i storio'n ddiogel gan Wavehill. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion. Nid yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i LlGC nac i unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Mae hwn yn asesiad annibynnol.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i unrhyw un eich adnabod. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion dadansoddi ystadegol ac ymchwil yn unig. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn adnabod unrhyw unigolion.
Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hon o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad. Mae eich atebion wedi'u cysylltu'n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i'r cyswllt hwn beidio â digwydd. Mae'r data dienw yn cael ei gadw'n ddiogel a dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y caiff ei ddefnyddio. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu'r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dr Nikki Vousden yn Wavehill (nikola.vousden@wavehill.com | 0330 1228658) neu Einion Gruffudd yn LlGC (einion.gruffudd@llgc.org.uk).
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan LlGC.
Ei gwneud yn ofynnol i LlGC gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
(Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data.
Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.
Cysylltwch ag Einion Gruffudd os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.org.uk neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.
Mwy o wybodaeth
Pam mae'r ymchwil hon yn digwydd?
Mae LlGC yn dod ag archifau BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C at ei gilydd i sefydlu Archif Ddarlledu Cymru: yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y DU. Nod y prosiect, a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yw sefydlu'r archif mewn partneriaeth â'r prif ddarlledwyr yng Nghymru a sicrhau y gellir ei gyrchu'n gyhoeddus trwy ganolfannau mynediad ac ymgysylltu a gwefan newydd.
Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy'r arolwg?
Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar sut mae archif LlGC yn cael ei chyrchu a phrofiadau defnyddwyr.
Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. ei enw, ei gyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw. Mae'r arolwg hwn yn casglu rhywfaint o ddata personol ar gyfer pob ymatebydd, yn benodol, oedran.
Am ba hyd y bydd data personol yn cael ei gadw?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i'r contract ddod i ben.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd?
Buddiant Cyfreithlon - Mae'r gwerthusiad yn galluogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddeall a yw'r prosiect yn effeithiol. Felly gellir ei ddefnyddio i hysbysu cyllidwyr y prosiect (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a gweithgareddau yn y dyfodol o fewn rôl a swyddogaethau craidd y sefydliad.
Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd:
Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r prosiect neu brosiectau yn y dyfodol
Penderfynu a ddylai prosiectau fel Archif Briadcast Cymru barhau yn y dyfodol
Deall y dulliau gorau ar gyfer creu archifau digidol a'u gwneud yn hygyrch.
Beth yw pwrpas prosesu eich atebion?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data'n cael ei ddadansoddi er mwyn galluogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y prosiect. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r arolwg?
Bydd gan Wavehill a Llyfrgell Genedlaethol Cymru fynediad at y data personol a gesglir drwy'r arolwg. Ni fydd y data yn cael ei rannu gydag unrhyw un y tu allan i Wavehill a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect (disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2026).
Int. Ref. 867-22
Comments