Wrth i'r gweithlu esblygu a'r boblogaeth yn heneiddio, mae cefnogi gweithwyr hŷn yn eu gyrfaoedd wedi dod yn fwy pwysig. Mewn ymateb, comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill, i gynnal adolygiad o raglen Adolygiadau Canol Gyrfa Cymru'n Gweithio, menter i annog gweithwyr 50 oed a hŷn i ystyried yn rhagweithiol eu datblygiad gyrfaol, sgiliau, iechyd, lles, sicrwydd ariannol, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gyda nifer cynyddol o unigolion hŷn yn wynebu heriau yn y gweithlu, mae'r fenter hon wedi chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cyflogadwyedd tymor hir a thwf personol mewn gweithlu sy'n heneiddio.
Heriau allweddol i weithwyr hŷn
Nodwyd yr Adolygiadau Canol Gyrfa gyntaf fel maes blaenoriaeth yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru yn 2022 i gydnabod bod gweithwyr 50 oed a hŷn yn aml yn wynebu heriau penodol a rhwystrau penodol wrth geisio am gyflogaeth newydd neu newidiadau gyrfaol. Amlygwyd yr heriau hyn hefyd yn adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (IES) Comisiwn ar Ddyfodol Cymorth Cyflogaeth: Gweithio ar gyfer y Dyfodol. Adleisiodd ein hymchwil yr heriau a'r rhwystrau o'r adroddiad hwn sy'n cynnwys:
Anawsterau wrth ddod o hyd i waith newydd: Mae gweithwyr hŷn yn tueddu i gael cyfnodau hir gyda'u cyflogwyr, a all gyfyngu ar eu profiad o chwilio am swyddi. Gall newid gyrfa neu alwedigaethau hefyd fod yn fwy heriol, sy’n gwneud hi'n i anodd sicrhau cyflogaeth newydd.
Galw am Hyblygrwydd: Mae llawer o weithwyr hŷn yn chwilio am drefniadau gweithio mwy hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser neu swyddi sy'n caniatáu pontio'n raddol i ymddeoliad. Mae hyblygrwydd yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n delio â materion iechyd neu gyfrifoldebau gofalu.
Angen am Hyfforddiant wedi'i Dargedu: Gyda'r farchnad swyddi sy'n esblygu, mae gweithwyr hŷn yn aml angen uwchsgilio neu ailsgilio i barhau'n gystadleuol. Mae adroddiad IES yn pwysleisio'r angen am ddarparu cyfleoedd hyfforddi sy'n helpu gweithwyr hŷn i gadw i fyny â datblygiadau technolegol a gofynion swyddi newydd.
Arferion cyflogaeth Cynhwysol: Mae hyrwyddo arferion cyflogaeth cynhwysol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyfle cyfartal yn y farchnad lafur. Mae gweithleoedd sy'n gyfeillgar i oedran nid yn unig yn caniatáu i weithwyr hŷn ffynnu ond hefyd yn galluogi cyflogwyr i elwa o'u profiad.
Esblygiad Adolygiadau Canol Gyrfa
Nod Adolygiad Canol-Gyrfaoedd oedd mynd i'r afael â'r heriau economaidd a ddaeth i'r amlwg yn sgil pandemig Covid-19, yn ogystal â heriau economaidd tymor hir a achosir gan newidiadau demograffig gan gynnwys arafu cyfraddau geni a phoblogaeth sy'n heneiddio ledled Cymru. Wrth gydnabod y gwerth a'r profiad y mae pobl hŷn yn eu cynnig i'r gweithlu ochr yn ochr â'r gwahanol anghenion cyflogaeth a'r cymorth sydd eu hangen, ceisiodd yr Adolygiad Canol Gyrfa ymgysylltu'n rhagweithiol â'r garfan hon trwy ymgyrch farchnata wedi'i thargedu.
Mae ein hymchwil yn dangos bod ymgorffori'r gwasanaeth unigryw hwn yn y cynnig cymorth cyflogaeth Cymru’n Gweithio ehangach wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'r broses adolygu gyrfa. Er ei fod wedi'i fwriadu i ddechrau ar gyfer unigolion dros 50 oed, drwy ei safle o fewn Cymru'n Gweithio, mae'r gwasanaeth wedi gallu cyrraedd ystod ehangach o bobl. Mae llawer wedi dweud eu bod wedi elwa o adolygiad gyrfa yn fwy na'r hyn yr oeddent yn ei ragweld yn wreiddiol. Awgrymwyd bod llawer o'r blaen wedi camdybio y gallai arweiniad gyrfa fod o fudd i bobl ifanc neu ddi-waith yn unig neu eu defnyddio fel cam ar y llwybr tuag at sicrhau hyfforddiant. Hefyd mae ein hymchwil yn dangos y gall adolygiad gyrfa wedi'i deilwra fod yn hynod o effeithiol, waeth beth yw eich oedran.
Gan dynnu ar ein sylfaen dystiolaeth a mewnwelediadau o bob rhan o Gymru, y DU, ac yn rhyngwladol ar sut mae Adolygiadau Gyrfa wedi'u gweithredu mewn cyd-destunau eraill, roeddem yn gallu arddangos enghreifftiau o arferion gorau ar gyfer cefnogi gweithwyr (hŷn) i barhau â'u taith cyflogaeth.
Ymchwil Wavehill: Dull cynhwysfawr o gefnogi ceiswyr gwaith
Mae ymchwil Wavehill i Adolygiadau Canol Gyrfa yn gysylltiedig â gwerthusiad ehangach o raglen Cymru'n Gweithio. Mae hyn wedi cynnwys gwerthuso ystod o wasanaethau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a gynlluniwyd i gefnogi carfannau amrywiol o geiswyr gwaith dros 16 mlwydd oed ledled Cymru. Fe wnaeth ein gwerthusiad hefyd adolygu'r gefnogaeth y mae'r rhaglen wedi'i darparu ar gyfer gwahanol grwpiau fel ymfudwyr a ffoaduriaid. Roedd ein gwerthusiad strategol yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredinol y rhaglen i sicrhau bod pob unigolyn, waeth beth fo'u lleoliad neu gefndir, yn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt ac ystyried sut y gall y gwasanaeth barhau i gefnogi ceiswyr gwaith i lywio marchnad swyddi sy'n esblygu'n barhaus.
Mae ymchwil Wavehill o'r Adolygiad Canol Gyrfa, ochr yn ochr â'i werthusiadau ehangach o raglen Cymru'n Gweithio, yn tanlinellu pwysigrwydd hyblygrwydd a chefnogaeth wedi'i theilwra. Wrth i'r gweithlu barhau i newid, mae ymyriadau wedi'u targedu fel Adolygiadau Gyrfa yn hanfodol i helpu unigolion i reoli eu gyrfaoedd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn Anna Burgess.
留言