
Mae Cymru'n Gweithio yn wasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd diduedd a phroffesiynol, a lansiwyd yn 2019 ac sy'n cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru. Mae'r gwasanaeth ar gael i bawb sy'n 16 oed neu'n hŷn, ac yn byw yng Nghymru. Drwy'r gwasanaeth, mae cynghorwyr gyrfaoedd yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion gyda chyngor, arweiniad a mynediad am ddim at hyfforddiant i'w helpu i gael gwaith neu ddatblygu eu gyrfaoedd.
Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn 2019, mae Wavehill wedi cwblhau gwerthusiad helaeth o raglen Cymru'n Gweithio. Yng nghamau cychwynnol y gwerthusiad, datblygwyd damcaniaeth newid a fframwaith gwerthuso, fel y manylwyd yn Gwerthusiad oo GWwasanaeth Cymru'n Gweithio: Adroddiad 1. Dilynwyd hyn gan bapur cryno, y cyntaf mewn cyfres sy'n manylu ar ganfyddiadau o ddarparu gwasanaethau. Y Papur Gwledig a Threfol, Papur Ffoaduriaid a Mudol, a'r Papur Strategol yw'r adroddiadau terfynol, a gyhoeddwyd heddiw, i gwblhau'r gyfres hon.
Mae'r Papur Gwledig a Threfol yn nodi canfyddiadau sy'n ymwneud â hygyrchedd daearyddol y gwasanaeth, gan archwilio'r gwahaniaethau mewn darpariaeth yn ôl mathau allweddol o ardaloedd. Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio gwahaniaethau o ran cyflawni a chanfyddiad Cymru Gweithio rhwng ardaloedd gwledig a threfol.
Mae'r Papur Ffoaduriaid a Mudol yn asesu sut mae'r model cyflawni a fabwysiadwyd gan Cymru'n Gweithio yn cefnogi ffoaduriaid ac ymfudwyr wrth iddynt ailsefydlu yng Nghymru. Mae'n ystyried lle mae'n gweithio'n dda, a lle mae bylchau yn y gwasanaeth yn amlwg. Mae'r papur hwn hefyd yn edrych ymlaen at ystyried y gofynion posibl ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol.
Mae'r Papur Strategol yn darparu canfyddiadau manwl a chrynodol o ddarparu gwasanaethau ar ddiwedd y gwerthusiad.
Roedd yr asesiad cynhwysfawr hwn yn cynnwys ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a defnyddwyr allweddol, gan sicrhau dealltwriaeth lawn o effeithiolrwydd y rhaglen. Mae'r gwerthusiad o'r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithlu gwydn a chynhwysol, sy'n ymateb i anghenion amrywiol poblogaeth Cymru. Mae canfyddiadau pob un o'r tri adroddiad olaf yn cynnig mewnwelediadau ac argymhellion gwerthfawr. Mae hyn yn cynnwys argymhellion ar wella'r gwasanaeth gan ragweld anghenion cymorth cyflogaeth yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn parhau i gynorthwyo unigolion yn effeithiol yn eu taith cyflogadwyedd.
Yn ogystal, comisiynwyd Wavehill i gynnal ymchwil yn archwilio'r dystiolaeth gychwynnol ar gyflwyno adolygiadau canol gyrfa (MCRs) gan wasanaeth Cymru'n Gweithio. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, gan gynnig rhagor o fewnwelediadau pellach ar sut mae Cymru'n Gweithio yn cefnogi pobl ledled Cymru.
Comments