Sgiliau, Cyflogadwyedd a’r Gweithlu

Disgwylir i raglenni cyflogadwyedd sicrhau bod cyfranogwyr yn symud ymlaen tuag at, ac i mewn, i gyflogaeth gynaliadwy, ond anaml iawn y mae teithiau cyfranogwyr yn syml neu’n llinol.

Mae pobl yn aml yn symud i mewn ac allan o wasanaethau cymorth, yn meithrin hyder yn raddol ac yn cymryd amser i gyrraedd gwaith sefydlog, felly mae’n bwysig cydnabod a darparu tystiolaeth o’r camau y maent yn eu cymryd ar hyd y ffordd.

  • Deall teithiau cyfranogwyr. Rydym yn cynllunio arolygon hydredol ac yn defnyddio paru data i ddangos sut mae hyder a sgiliau’n datblygu dros amser, gan nodi y camau y mae pobl yn eu cymryd tuag at gyflogaeth gynaliadwy.
  • Nodi patrymau ar draws eich rhaglen. Rydym yn dadansoddi setiau data eang ochr yn ochr â chyfweliadau er mwyn deall cyfranogiad, cynnydd drwy gymorth a chanlyniadau.
  • Defnyddio dysgu i lywio’r ddarpariaeth. Fel partner dysgu, rydym yn gweithio ochr yn ochr â thimau cyflawni i brofi beth sy’n gweithio ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau lluosog a chymhleth, ac yn darparu mewnwelediadau ymarferol i lywio gwelliannau parhaus i wasanaethau.

Cleientiaid

WcVA logo
National Lottery logo
West Yorkshire Combined Authority
Welsh Government logo
West Midlands Combined Authority logo
north-east msa logo

Cysylltiadau Allweddol

Andy Parkinson

Cyfarwyddwr

Anna Burgess

Is-Gyfarwyddwr

Declan Turner

Is-Gyfarwyddwr

Oliver Allies

Rheolwr Gyfarwyddwr

×