Mae Endaf Griffiths yn Gyfarwyddwr yn Wavehill ac yn un o ymgynghorwyr mwyaf profiadol y cwmni. Mae wedi gweithio ym maes datblygu economaidd ers 30 mlynedd, gan gynnwys bron i 20 mlynedd ym maes ymchwil a gwerthuso. Mae wedi gweithio mewn ystod o feysydd gan gynnwys datblygu gwledig, addysg, cyflogadwyedd, gwasanaethau ieuenctid, cymorth i fusnesau, iechyd a llesiant, rhaglenni amgylcheddol, asesu effaith economaidd, ac adfywio cymunedau yn ffisegol ac yn gymdeithasol. Fodd bynnag, mae datblygu gwledig wedi parhau’n ganolog i’w waith drwy gydol ei yrfa.
Mae Endaf wedi arwain amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso cymhleth ac uchel eu proffil, yn enwedig ar ran Llywodraeth Cymru. Mae ei waith diweddar yn cynnwys gwerthusiadau o’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru, y Cynllun Buddsoddi Strategol yn y Sector Bwyd a Diod, a phrosiectau eraill ym meysydd datblygu gwledig, cymunedau a’r amgylchedd. Mae ganddo brofiad helaeth o werthuso ar sail theori ac o ddefnyddio dulliau cymysg, gan gyfuno dadansoddiad meintiol â chyfweliadau, arolygon, gweithdai, astudiaethau achos a dulliau cyfranogol.
Cyn ymuno â Wavehill, Endaf oedd Cyfarwyddwr Masnachol Menter a Busnes, sydd bellach yn Mentera, un o brif gwmnïau datblygu economaidd Cymru. Cyn hynny, treuliodd saith mlynedd yn Awdurdod Datblygu Cymru, lle bu mewn sawl swydd, gan gynnwys Dadansoddwr Polisi Gwledig, Gweithredwr Rhanbarthol a Rheolwr Rhaglenni Gwledig. Dechreuodd ei yrfa gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac mae ganddo radd BSc (Anrh) mewn Rheoli Adnoddau Gwledig o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gan arbenigo mewn economeg wledig a busnes.
Mae Endaf yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac wedi’i leoli yn Aberystwyth. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Golwg, cwmni amlgyfrwng Cymraeg. Y tu allan i’r gwaith, mae’n hyfforddi tîm pêl-droed dan 13 oed.