Creadigol, Diwylliant a Threftadaeth

Mae sefydliadau creadigol, diwylliannol a threftadaeth yn gweithredu mewn amgylcheddau sy’n gynyddol gymhleth, gan gydbwyso cynaliadwyedd ariannol wrth sicrhau gwerth parhaol i bobl a lleoedd.

Gyda chystadleuaeth gynyddol am gyllid a disgwyliadau cynyddol ynghylch gwerth cyhoeddus, mae angen i sefydliadau feithrin gwydnwch wrth ddangos eu cyfraniad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

  • Rydym yn cynllunio gwerthusiadau ystyriol sy’n adlewyrchu sut mae rhaglenni’n gweithredu mewn gwirionedd. Gan gydnabod bod rhaglenni’n rhan o ecosystemau cymhleth o gymunedau, lleoedd, cynulleidfaoedd, partneriaid a meysydd polisi, rydym yn datblygu dulliau hyblyg a sensitif sy’n adlewyrchu sut mae newid yn digwydd yn ymarferol.
  • Rydym yn dangos sut mae gweithgarwch creadigol a diwylliannol yn creu gwerth ehangach – o adfywio ac economïau lleol i lesiant, cyfranogiad a sgiliau – gan eich helpu i ddangos gwerth eich gwaith a chreu achos cryfach dros gyllid.
  • Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau cyflawni, partneriaid a chyfranogwyr i ddal yr hyn sy’n bwysig ar lawr gwlad, gan gyfuno data â straeon a phrofiadau byw, a gesglir drwy ddulliau ymarferol a hygyrch, fel bod eich effaith yn gredadwy, yn ystyrlon ac wedi’i gwreiddio yn y cymunedau rydych yn eu gwasanaethu.

 

 

Cleientiaid

Department for Culture, Media and Sport logo
ArtsCouncil
Creative Wales logo
S4C logo
film hub wales
Hay Festival Logo
Thriving Together logo
Culture and business Scotland
Epping Forest Heritage Trust
Historic England logo
NLW Logo
NLHF logo
National Trust UK Logo

Cysylltiadau Allweddol

Andy Parkinson

Cyfarwyddwr

Dr. Nikki Vousden

Ymgynghorydd

Michael Pang

Is Gyfarwyddwr

Sarah Usher

Uwch Ymgynghorydd

×