Adfywio Lle a Chymuned

Mae rhaglenni adfywio yn gorfod dangos newid ystyrlon mewn lleoedd, gan ddangos sut mae buddsoddiad yn gwella cymunedau, economïau a bywydau bob dydd pobl.

Mae hyn yn gofyn am dystiolaeth glir a chredadwy o’r hyn sydd wedi’i gyflawni, sut mae lleoedd wedi newid, a’r cyfraniad y mae rhaglenni wedi’i wneud at y canlyniadau hynny.

  • Dangos effaith a gwerth am arian eich ymyriadau. Rydym yn cyfuno dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a dadansoddiad cost a budd â dangosyddion sy’n seiliedig ar leoedd i fesur ffactorau megis swyddi a thwf economaidd, sgiliau, bywiogrwydd canol trefi, balchder mewn lle, iechyd a llesiant, ynghyd â mesurau amgylcheddol sy’n darparu tystiolaeth o ganlyniadau tymor byr a thymor hwy.
  • Deall sut mae rhaglenni’n gweithio ar draws gwahanol leoedd a dulliau cyflawni. Rydym yn gwerthuso pob math o ymyriadau adfywio mewn lleoliadau ledled y DU ac yn archwilio sut mae dulliau cyflawni a chyd-destunau lleol yn dylanwadu ar ganlyniadau mewn gwahanol leoedd. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth gadarn inni o arferion da a’r hyn sy’n gweithio orau mewn gwahanol gyd-destunau.
  • Creu mewnwelediad sy’n gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau rhaglenni. Rydym yn gweithio gyda thimau rhaglenni i ddeall sut mae trefniadau cyllido, partneriaethau, llywodraethu a chyflawni yn dylanwadu ar lwyddiant rhaglenni. Mae ein dull dadansoddol yn darparu mewnwelediad ymarferol i wella’r ffordd y caiff rhaglenni eu cyflawni ac i gynllunio buddsoddiadau yn y dyfodol.

Cleientiaid

Cysylltiadau Allweddol

Endaf Griffiths

Cyfarwyddwr

Oliver Allies

Rheolwr Gyfarwyddwr

Stuart Merali-Younger

Cyfarwyddwr

×