Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth
Mae Wavehill wedi cael ei benodi gan Ymddiriedolaeth Porth Tywi i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect Gardd Furiog Parc yr Esgob.
Rydym yn gofyn i bobl sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar y prosiect i lenwi holiadur er mwyn ein helpu i ddeall yn well yr effaith y mae’r prosiect wedi’i chael ar unigolion. Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Gallwch ddewis peidio â chymryd rhan a gallwch hefyd ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw hynny’n well gennych. Sylwer y bydd gan Wavehill ac Ymddiriedolaeth Porth Tywi fynediad at y data personol a gesglir drwy’r arolwg.
Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r arolwg yn gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod chi neu’ch sefydliad. Os byddwch yn darparu eich cyfeiriad e-bost, gall Ymddiriedolaeth Porth Tywi ei ddefnyddio at ddibenion cyfathrebu sy’n ymwneud â Pharc yr Esgob. Defnyddir pob gwybodaeth arall at ddibenion dadansoddi ystadegol ac ymchwil yn unig. Bydd Wavehill ac Ymddiriedolaeth Porth Tywi yn cynhyrchu adroddiadau yn seiliedig ar y data, ond ni fydd y rhain yn adnabod unrhyw unigolion.
Bydd Wavehill yn dileu pob data personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hon o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad o’r prosiect (y bwriedir iddo ddod i ben ym mis Rhagfyr 2027). Bydd Ymddiriedolaeth Porth Tywi yn cadw’r data ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion gwerthuso gweithgareddau parhaus ym Mharc yr Esgob yn erbyn data llinell sylfaen. Caiff eich ymatebion i’r arolwg eu cysylltu’n ddienw â ffynonellau data eraill at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn i hyn beidio â digwydd. Cedwir y data dienw yn ddiogel ac fe’i defnyddir at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu’r gwerthusiad yn fwy cyffredinol, cysylltwch â Dr Nikki Vousden yn Wavehill (nikki.vousden@wavehill.com | 0330 122 8658) neu Louise Austin yn louiseaustin@tywigateway.org.uk neu Teresa Walters yn teresawalters@tywigateway.org.uk.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- Gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Porth Tywi.
- Ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth Porth Tywi gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw.
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu mewn amgylchiadau penodol.
- Cael eich data wedi’i ddileu mewn amgylchiadau penodol.
Cysylltwch â Louise Austin neu Teresa Walters os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk, neu ysgrifennu at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Gwybodaeth Bellach
Pam mae’r ymchwil hwn yn cael ei gynnal?
Bwriedir i Brosiect Gardd Furiog Parc yr Esgob gefnogi Ymddiriedolaeth Porth Tywi i “wella’r defnydd cyhoeddus rhad ac am ddim o Barc yr Esgob a’r mwynhad ohono, drwy ddarparu cyfleusterau i ymwelwyr sy’n economaidd gynaliadwy ac a fydd yn cefnogi gofal y parc yn ariannol yn y tymor hir”. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu gofod hyblyg aml-swyddogaethol a fydd yn cryfhau gallu’r parc i gynhyrchu incwm ac yn ategu ei weithgareddau masnachu a dysgu. Bydd datblygu’r ardd furiog yn galluogi darparu amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol ym meysydd iechyd a lles, addysg, hyfforddiant a chymuned.
Mae Wavehill, cwmni ymchwil annibynnol, wedi cael ei benodi gan Ymddiriedolaeth Porth Tywi i gynnal gwerthusiad annibynnol o Brosiect Gardd Furiog Parc yr Esgob yng nghyd-destun y parc ehangach. Fel rhan o hyn, rydym yn gofyn i bobl sydd wedi ymweld â Pharc yr Esgob, cymryd rhan mewn digwyddiadau neu weithgareddau, neu wirfoddoli yno, i lenwi holiadur er mwyn llywio ein dealltwriaeth o brofiadau pobl. Bydd yr adborth yn ein helpu i ddeall profiadau pobl ac yn cyfrannu at waith casglu data parhaus yr Ymddiriedolaeth, a fydd yn parhau y tu hwnt i oes Prosiect yr Ardd Furiog.
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy’r arolwg?
Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar farn pobl am eu profiadau o’r parc a’u cyfranogiad yn y prosiect, ynghyd ag unrhyw ganlyniadau canfyddedig.
Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn gyffredinol, er enghraifft ei enw, ei gyfeiriad, neu wybodaeth sy’n benodol i’r unigolyn hwnnw.
Am ba hyd y bydd data personol yn cael ei gadw?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract (y bwriedir iddo ddod i ben ym mis Rhagfyr 2027). Bydd Ymddiriedolaeth Porth Tywi yn cadw’r data ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion gwerthuso parhaus.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu’r data?
Y sail gyfreithiol yw Budd Cyfreithlon. Mae’r gwerthusiad yn galluogi Ymddiriedolaeth Porth Tywi i ddeall a yw ei gweithgareddau wedi bod yn effeithiol hyd yma. Gellir felly ddefnyddio’r wybodaeth i lywio cyllidwyr prosiectau a gweithgareddau yn y dyfodol, o fewn cyd-destun y prosiect ac o fewn rôl a swyddogaethau craidd y sefydliad. Er enghraifft, gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir:
- I benderfynu a oes angen gwneud newidiadau.
- I ddeall y dulliau gorau o weithio gyda gwirfoddolwyr.
- I benderfynu a ddylai prosiectau tebyg barhau yn y dyfodol.
Pwy sydd â mynediad at y data personol a gesglir drwy’r arolwg?
Bydd gan Wavehill ac Ymddiriedolaeth Porth Tywi fynediad at y data personol a gesglir drwy’r arolwg. Ni fydd y data yn cael ei rannu ag unrhyw un arall y tu allan i Wavehill ac Ymddiriedolaeth Porth Tywi. Bydd Wavehill yn dileu pob data personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect (y bwriedir iddo ddod i ben ym mis Rhagfyr 2027).