
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol
Mae ymchwil yn dangos y cysylltiad rhwng penderfynyddion cymdeithasol iechyd megis lefelau trosedd a thlodi, ynysu cymdeithasol, iechyd meddwl, cyrhaeddiad addysgol a statws gwaith ag ansawdd bywyd unigolyn a disgwyliad oes cyffredinol. Gan ddefnyddio dull bioseicogymdeithasol, gallwn eich helpu i sefydlu'r gyd-ddibyniaeth y gall cyd-destun biolegol, seicolegol a chymdeithasol ei chael ar iechyd unigolyn. Mae Adolygiad Marmot yn amlygu’r angen am ddull seiliedig ar dystiolaeth i ddeall a mynd i’r afael â’r materion rhyng-gysylltiedig hyn a gall ein gwaith eich helpu i fynegi hyn ar gyfer eich prosiect neu bolisi.

Yn Wavehill rydym yn:
-
Defnyddio ddull rhyng-gysylltiedig, traws-sector i helpu i lywio eich prosiect, polisi, neu strategaeth, tra bod ein profiad dwfn ym maes iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol roi dadansoddiad a dealltwriaeth arbenigol i chi o'r materion sy'n eich wynebu.
-
Darparu gwerthusiadau annibynnol arbenigol i chi sy’n tynnu o’n hystod eang o arbenigeddau mewn mentrau a phrosiectau lleol a chenedlaethol sy’n deall ac yn gallu dylanwadu ar anghydraddoldeb iechyd a darpariaethau gofal cymdeithasol.
Gall goblygiadau iechyd meddwl neu gorfforol gwael fod yn bellgyrhaeddol i’r unigolyn a’i ffrindiau a’i deulu, i ddarparwyr gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau yn ogystal ag i’r economi ehangach. Gall ein gwaith eich helpu i ddangos sut y gall ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol at iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol ddarparu ystod o ganlyniadau iechyd a lles yn ogystal â chyfrannu at amcanion polisi cenedlaethol ehangach.
Astudiaethau Achos/Erthyglau
Cysylltiadau Allweddol

Cleientiaid




