Hall Aitken

Mae gan Hall Aitken bresenoldeb hirsefydlog yn yr Alban, gan weithio gyda sefydliadau i gefnogi penderfyniadau gwybodus a gwella eu heffaith.

Daeth Hall Aitken yn rhan o Wavehill ym mis Ebrill 2026, gan ddod â dwy ymgynghoriaeth ynghyd sy’n rhannu ffocws ar ymchwil a gwerthuso trylwyr ac annibynnol. Mae enw Hall Aitken yn parhau i gydnabod ei enw da a’i gydberthnasau sefydledig yn yr Alban, gyda chefnogaeth yr arbenigedd a’r adnoddau ehangach sydd ar gael ar draws Wavehill.

Ynglŷn â Hall Aitken
Ers dros 30 mlynedd, mae Hall Aitken wedi gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i’w helpu i ddeall materion cymhleth, cynllunio’n effeithiol ac asesu’r gwahaniaeth y mae eu gwaith yn ei wneud.

Mae Hall Aitken yn adnabyddus am feddwl clir, cyngor ymarferol a dull sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae ei waith yn mynd at wraidd mater, yn cyflwyno canfyddiadau’n onest ac yn helpu sefydliadau i droi tystiolaeth yn benderfyniadau a chamau gweithredu.

Mae ei gleientiaid wedi cynnwys cyrff cyhoeddus, awdurdodau lleol, elusennau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cyllido. Mae ei brofiad yn cwmpasu iechyd a llesiant, chwaraeon a gweithgarwch corfforol, menter, cyflogadwyedd a datblygu cymunedol.

Hall Aitken a Wavehill
Mae Hall Aitken a Wavehill yn rhannu dull sy’n canolbwyntio ar ddeall cyd-destun pob cleient a’u helpu i gryfhau eu gwaith a dangos ei werth.

Mae’r berthynas yn cyfuno profiad a dealltwriaeth Hall Aitken o’r Alban â thîm ehangach Wavehill o ymchwilwyr ac arbenigwyr. I gleientiaid Hall Aitken, mae hyn yn cynnig parhad ochr yn ochr â mynediad at ystod ehangach o arbenigedd, gan gynnal dealltwriaeth glir o dirwedd bolisi a chyflawni unigryw’r Alban.

HallAitken Wavehill

Gwasanaethau

Mae ein gwasanaethau’n cefnogi cleientiaid ar wahanol gamau o’u gwaith, o ddeall y materion ac asesu opsiynau i gynllunio gweithgarwch yn y dyfodol a gwerthuso ei effaith.

 

  • Achosion Busnes a Cheisiadau Cyllid
  • Monitro a Gwerthuso
  • Dadansoddiad Ymgynghori
  • Ymchwil Polisi a Datblygu Strategaeth
  • Asesiadau Effaith Economaidd

Sectorau

Mae ein gwaith yn cwmpasu sectorau sy’n llywio pobl, lleoedd ac economïau, gan adlewyrchu’r gwahanol gyd-destunau y mae sefydliadau’n gweithredu ynddynt a chymunedau’n profi newid ynddynt.

 

  • Ynni ac Ynni Adnewyddadwy
  • Creadigol, Diwylliant a Threftadaeth
  • Sgiliau, Cyflogadwyedd a’r Gweithlu
  • Adfywio Lle a Chymuned
  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol
  • Busnes, Menter ac Arloesedd
  • Datblygu Gwledig

Rhai o’r cleientiaid rydyn ni’n eu cefnogi

Glasgow Life
Highlands & Islands Enterprise
Kings Park Moving Together
North Ayreshire Council
Scottish Enterprise
The Scottish Library
The Conservation Volunteers
Tweed Forum
Glasgow Life
Highlands & Islands Enterprise
Kings Park Moving Together
North Ayreshire Council
Scottish Enterprise
The Scottish Library
The Conservation Volunteers
Tweed Forum

Darganfyddwch sut y gallwn eich helpu chi…