Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (ED&I) yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd y mae Wavehill yn gweithredu fel busnes. Mae'n dylanwadu ar ein diwylliant a'n harferion gwaith, a sut rydym yn ymdrin â'n perthnasoedd gwaith; mae wedi'i ymgorffori yn ein gwerthoedd craidd. Trwy ein gwaith dylunio ac arferion ymchwil, ein dull o recriwtio, a'n strategaethau cadw rydym am adlewyrchu'n well yr ystod amrywiol o gleientiaid rydym yn gweithio efo a'r cymunedau rydym yn ymgysylltu efo. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod hon yn daith barhaus. Wrth i ni esblygu a thyfu fel sefydliad, rydym yn dysgu'n barhaus ac yn ymdrechu i wella.
Mae ymgysylltu a chydweithio yn elfennau allweddol i'n dull gweithredu. Trwy strwythur cwmni sy'n eiddo i weithwyr Wavehill, rydym wedi datblygu mecanweithiau i bob aelod o staff fwydo a chyfrannu at benderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar gyfeiriad strategol a diwylliannol ein cwmni. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn galluogi staff i fynegi a gweithredu'r math o sefydliad yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo. Yn ei dro, mae hyn wedi ymgorffori diwylliant Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ED&I) ledled Wavehill ac wedi arwain at fwy o atebolrwydd ar draws pob lefel o'r cwmni.
Mae hyn yn golygu edrych ar:
-
Ein harferion ymchwil: Gweithio ar y cyd â’n cleientiaid, rhanddeiliaid, a chymunedau i fabwysiadu arfer gorau priodol fel bod ein methodolegau a’n dulliau ymchwil yn fwy cynhwysol.
-
Ffyrdd o wella ein hymagwedd at recriwtio a chadw staff, sy'n ystyried amgylchiadau unigolyn: Fel y cyfryw rydym yn datblygu strategaeth hirdymor i ddenu talent o ystod ehangach o gefndiroedd a phrofiadau.
-
Sut rydym yn rhannu gwybodaeth gyda'n cleientiaid, cydweithwyr, staff, a rhanddeiliaid ehangach: Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gwneud addasiadau priodol i'n holl gynnwys.
Pam fod Tegwch yn bwysig i Wavehill?
Mae Tegwch yn cydnabod nad ydym i gyd yn dechrau o'r un sefyllfa. Mae'n canolbwyntio ar degwch a didueddrwydd; y dylem gydnabod a chywiro anghydbwysedd trwy gael gwared ar gyfyngiadau bwriadedig ac anfwriadol trwy broses fyfyriol sy'n barhaus. Rydym yn ymwybodol o hyn drwy ein gwaith, ein hymgysylltiad â gwahanol gymunedau, a'n harferion ymchwil. Felly, rydym yn cydnabod bod angen i ni addasu a chywiro anghydbwysedd lle y bo'n briodol, er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli a bod pawb yn gallu cael mynediad at ein hymchwil. Rydym yn cydnabod er enghraifft efallai na fyddwn bob amser yn y sefyllfa orau i gynnal ymchwil gyda grwpiau mwy anodd eu cyrraedd ac felly efallai y byddwn yn defnyddio ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiadau byw tebyg.
Pam fod Amrywiaeth yn bwysig i Wavehill?
Mae amrywiaeth yn ymwneud â chydnabod gwahaniaethau pobl a chydnabod y manteision y gall safbwyntiau a phrofiadau gwahanol eu cynnig i Wavehill a'n cleientiaid. Rydym yn cydnabod y gall mwy o amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol arwain at ymatebion mwy creadigol ac arloesol i heriau ein cleientiaid tra bod gweithlu mwy amrywiol yn adlewyrchu ein cleientiaid yn well. Rydym wedi datblygu strategaeth recriwtio hirdymor i ddenu talent o ystod ehangach o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym wedi datblygu pecyn recriwtio cynhwysfawr a phroses recriwtio fwy tryloyw; Mae hyn yn cynnwys chwilio am wahanol sianeli i hysbysebu ein swyddi gwag. Rydym yn parhau i ddatblygu ein rhaglen interniaeth i sicrhau bod interniaid yn ennill profiad gwaith ystyrlon a thâl. Mae amrywiaeth yn ymwneud â chydnabod gwahaniaethau pobl a chydnabod y manteision y gall safbwyntiau a phrofiadau gwahanol eu cynnig i Wavehill a'n cleientiaid. Rydym yn cydnabod y gall mwy o amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol arwain at ymatebion mwy creadigol ac arloesol i heriau ein cleientiaid tra bod gweithlu mwy amrywiol yn adlewyrchu ein cleientiaid yn well. Rydym wedi datblygu strategaeth recriwtio hirdymor i ddenu talent o ystod ehangach o gefndiroedd a phrofiadau. Rydym wedi datblygu pecyn recriwtio cynhwysfawr a phroses recriwtio fwy tryloyw; Mae hyn yn cynnwys chwilio am wahanol sianeli i hysbysebu ein swyddi gwag. Rydym yn parhau i ddatblygu ein rhaglen interniaeth i sicrhau bod interniaid yn ennill profiad gwaith ystyrlon a thâl.
Pam fod Cynhwysiant yn bwysig i Wavehill?
Mae cynhwysiant yn sicrhau bod gwahaniaethau pobl yn cael eu gwerthfawrogi. Yn Wavehill, rydym yn gweithio'n barhaus tuag at ddatblygu amgylchedd cynhwysol lle gall yr holl staff gyflawni i'w llawn botensial, waeth beth fo'u, eu hunaniaeth na'u hamgylchiadau. Rydym yn sicrhau, trwy arolygon staff rheolaidd a mecanweithiau mewnol a chyffyrddiadau eraill fod lleisiau'r holl staff yn cael eu cynrychioli. Drwy'r sianeli hyn, cydnabyddir er bod cynnydd yn cael ei wneud i ddod yn fwy cynhwysol, mae hon yn daith barhaus. Rydym am fod yn atebol a chredwn y gallwn, trwy rannu'r gwaith yr ydym wedi ei wneud, wella ein dealltwriaeth o'r heriau dan sylw ac yn eu tro gymryd camau ystyrlon. Mae rhai o'r ffyrdd y gallwn alluogi hyn yn cynnwys: •Arferion ymchwil cynhwysol. Rydym yn gweithio ar y cyd â'n cleientiaid, rhanddeiliaid a chymunedau i fabwysiadu neu gyd-gynhyrchu methodolegau ymchwil priodol yn seiliedig ar arferion gorau sy'n sicrhau bod ein dulliau gweithredu'n fwy cynhwysol. •Sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni. Mae cynhyrchu ein cynnwys yn ymwybodol o egwyddorion hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys ein templedi adrodd wedi'u diweddaru, tendro a chyflwyno a all fodloni'r safonau hygyrchedd gofynnol, i'n hallbynnau sy'n ymdrechu i ddefnyddio iaith briodol, gynhwysol. Mae ein paled lliw brand Wavehill yn cydymffurfio ag AAA ac mae cyferbyniadau lliw priodol yn cael eu defnyddio'n gyson. •Darparu hyfforddiant a chefnogaeth. Rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac arferion gorau sy'n canolbwyntio ar heriau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle a thu hwnt. Trwy godi ymwybyddiaeth a chael gwell dealltwriaeth o'r heriau gwahanol y mae unigolion a chymunedau'n eu hwynebu, gallwn greu amgylchedd lle mae pawb rydyn ni'n gweithio efo yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu gwell allbynnau i'n cleientiaid a chanlyniadau gwell i'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.