Ein Hadroddiad Effaith Blynyddol cyntaf: 2025-26

Awst 19, 20261 darlleniad munudCyffredinol

Mae Wavehill wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Effaith Blynyddol cyntaf, sy’n adlewyrchu blwyddyn arwyddocaol pan ddaethom yn gorff ardystiedig B Corp a chroesawu Hall Aitken i’r busnes, gan ychwanegu pumed canolfan yn y DU, yn Glasgow.

Yn ogystal, cyflwynodd ein timau waith ymchwil a gwerthuso nodedig i amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys GIG Lloegr, Partneriaeth Lleihau Trais Sussex, Awdurdod Llundain Fwyaf, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Roedd eleni hefyd yn nodi diwedd cyfnod wrth i un o’n sylfaenwyr, Mark Willis, ymddeol ar ôl 30 mlynedd o helpu i lunio a datblygu’r cwmni. Ar ôl degawdau o ymroddiad i’r cwmni, rydym yn falch y bydd ganddo bellach fwy o amser i hwylio a mwynhau popeth arall sydd ar ei restr.

Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, ac yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar fuddsoddi ymhellach yn ein pobl, ehangu ein presenoldeb ledled y DU, a gwella’r ffordd rydym yn mesur ac yn cyfathrebu ein heffaith.

Wavehill Impact Report 2025-2026