Diwrnod i Ffwrdd Wavehill yn Birmingham 2022

Medi 29, 20222 darlleniad munudCyffredinol

Yr wythnos hon cawsom ein Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd blynyddol yn Birmingham. Mae’n gyfle i ni ddod at ein gilydd, i rannu newyddion a diweddariadau cwmni, trafod arloesiadau newydd a mwy. ein polisïau Gwerth Cymdeithasol. Mae’r Diwrnodau Cwrdd i Ffwrdd hyn yn rhan annatod o ddiwylliant Wavehill, ac fel cwmni sy’n eiddo i weithwyr maent yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn cael adborth a mewnbwn gan staff i helpu i lunio a gwreiddio cyfeiriad strategol a gwerthoedd ein cwmni.

Roedd hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ein prosiectau dros y flwyddyn ddiwethaf a chydnabod ein portffolio gwaith a chleientiaid sy’n ehangu. Cymeron ni’r amser i edrych ymlaen wrth i ni esblygu ein cynnig i gleientiaid a staff; mae hyn yn arbennig o bwysig yn erbyn y dirwedd economaidd a pholisi sy’n newid yn gyflym ar hyn o bryd.

Yn Wavehill rydym yn gweithredu model gweithio hybrid, ac mae’r Diwrnodau i Ffwrdd yn rhoi cyfle pwysig inni gysylltu wyneb yn wyneb â chydweithwyr o wahanol swyddfeydd ledled y DU. Roedd hefyd yn gyfle gwych i gyfarfod, a chroesawu, ein haelodau staff mwyaf newydd i Wavehill; Beth, Iwan, Marianne, Niccolo a Rhys.

Ond nid busnes oedd y cyfan! Cawson ni gyfle i ymlacio mewn ysgol goginio leol lle cawson ni ddysgu sut i baratoi pryd o fwyd neu goctel i’w rannu ar gyfer gweddill ein tîm. Cafodd pawb lawer o hwyl ac maen nhw eisoes yn edrych ymlaen at Ddiwrnod i Ffwrdd y flwyddyn nesaf!