Yn Wavehill rydym yn helpu ein cleientiaid i wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar ymchwil gadarn, tystiolaeth ddibynadwy, a rhesymeg glir. Rydym yn gwmni uchelgeisiol sy’n tyfu ac sy’n eiddo i weithwyr ac yn cael ein harwain gan werthoedd cymdeithasol, cymunedol ac amgylcheddol cryf. Rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu diwylliant cynhwysol ac amgylchedd cefnogol i’n holl gydweithwyr..
Mae’n gyfnod cyffrous yn nhwf Wavehill. Rydym yn tyfu ein portffolio o waith a chleientiaid yn gynaliadwy ac ar hyn o bryd mae gennym gyfle gwych ar gyfer Ymgynghorydd a Uwch Ymgynghorydd i ymuno â’n tîm, gyda ffocws penodol ar gefnogi ein marchnad Gymreig.
Y Rôlau
Mae ymgynghorwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o dasgau ymchwil a gwerthuso gan gynnwys rheoli prosiectau, dylunio holiaduron, gwaith maes (ansoddol a meintiol), dadansoddi data ac adrodd.
Mae gan Uwch Ymgynghorwyr gyfrifoldeb am ennill, dylunio, rheoli a chyflawni prosiectau ymchwil a gwerthuso. Maent yn chwarae rhan flaenllaw wrth gydweithio â chleientiaid, partneriaid a chymdeithion i gyd-greu allbynnau a chyflawni mewnwelediadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Yr Hyn a Gynigiwn
-
Ymgynghorydd: £26,000 i £34,000.
-
Uwch Ymgynghorydd: £34,000 i £42,000.
Ar gyfer y ddwy rôl, gall y cyflog sydd ar gael amrywio yn dibynnu ar brofiad ond bydd o fewn y bandiau cyflog a amlinellir.
-
Bonws cwmni hyd at 15% o’r cyflog sylfaenol, yn seiliedig ar elw’r cwmni – fel cwmni sy’n eiddo i weithwyr, dyfernir y £3,600 cyntaf o’r bonws hwn yn ddi-dreth.
-
Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 5%, wedi’i gyfateb gan weithwyr.
-
Ymrwymiad i fuddsoddi’n barhaus yn eich dysgu a’ch datblygiad.
-
Gweithio swyddfa, hybrid a gweithio o bell ar gael.
-
Gweithio hyblyg gan gynnwys model gweithio 9 diwrnod bob pythefnos ar gyfer staff llawn amser.
-
25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu ar ôl dwy flynedd) ynghyd â gwyliau banc.
Rydym yn hyblyg o ran a yw’r swydd(i) yn llawn amser neu’n rhan amser (o leiaf 0.6 FTE). Ceisir ceisiadau am swyddi yn rhagweithiol ac anogir hwy gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Ymunwch â’n tîm
Am fwy o fanylion am y swyddi hyn ewch i’n tudalen recriwtio. I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ac uwchlwythwch eich CV yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Ebrill 2024.