Gwersi o raglen gwerth biliynau o bunnoedd i ddatgarboneiddio gwres
Gweithiodd Wavehill fel rhan o gonsortiwm a gomisiynwyd gan BEIS i werthuso cynllun Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) diwygiedig y DU. Asesodd y prosiect effeithiolrwydd ac effeithiau diwygiadau a gyflwynwyd o 2017/18 hyd at gau yn 2022, gan ddarparu tystiolaeth annibynnol i lywio polisi gwres adnewyddadwy yn y dyfodol.
Roedd y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy (RHI) yn gynllun gan y llywodraeth a oedd yn darparu cymhellion ariannol i fusnesau ac aelwydydd osod technolegau gwres adnewyddadwy, megis boeleri biomas, pympiau gwres a phaneli solar thermol mewn lleoliadau domestig ac annomestig. Canfu’r adroddiad fod yr RHI wedi helpu i gynyddu nifer y gosodiadau gwres adnewyddadwy yn y DU yn y ddau fath o leoliad. Daeth i’r casgliad bod cyfnodau amser hir, argaeledd cyson o gyllid a sicrwydd polisi yn ffactorau allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.
Fel rhan o dîm y gwerthusiad, arweiniodd Wavehill ar dri maes gwaith:
• dadansoddiad o’r graddau yr oedd y rhaglen yn cefnogi’r newid tuag at farchnadoedd mwy cynaliadwy ar gyfer technolegau gwres adnewyddadwy allweddol;
• effeithiau’r rhaglen ar gystadleuaeth a masnach, gan gynnwys ystyried a oedd lefelau’r tariffau wedi’u pennu ar gyfradd briodol;
• dadansoddiad o gost-effeithiolrwydd y cynllun.
Mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth glir o lwyddiant y cynllun wrth ysgogi’r broses o ddefnyddio technolegau gwres adnewyddadwy, ond mae hefyd yn amlygu heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw. Bydd llawer o’r mewnwelediadau a gynhyrchwyd yn darparu dysgu pwysig ar gyfer datblygu cynlluniau olynol i hyrwyddo gwres adnewyddadwy mewn lleoliadau domestig ac annomestig yn y dyfodol, ac yn y pen draw yn cyfrannu at amcanion sero net hirdymor y DU.
Am ddisgrifiad llawn o’r canfyddiadau, gweler yr adroddiad cyhoeddedig.