Sut y gwnaeth gweithredu cymdeithasol dan arweiniad pobl ifanc greu newid parhaol.
Lansiwyd Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid #iwill yn 2017 fel partneriaeth gwerth £2.4 miliwn rhwng Comic Relief a’r gronfa #iwill ehangach, a oedd ei hun wedi’i chefnogi gan fuddsoddiad ar y cyd gwerth £54 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Effaith
Creodd y gronfa fwy na 5,800 o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol.
I bobl ifanc, gwnaeth cymryd rhan wahaniaeth gwirioneddol:
- Dywedodd 59% eu bod wedi magu mwy o hyder.
- Dywedodd 73% eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned a dywedodd 64% eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd.
- Cytunodd 71% eu bod yn gallu creu newid yn eu cymuned.
- Dywedodd 67% fod cymryd rhan wedi eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol eraill.
Defnyddiodd llawer o brosiectau bwyntiau mynediad hygyrch, megis chwaraeon, adeiladu, y celfyddydau creadigol, gwneud ffilmiau ac ymgyrchu, i ymgysylltu â phobl ifanc nad oeddent o bosibl yn uniaethu â’r term “gweithredu cymdeithasol” i ddechrau. Canfu’r gwerthusiad fod dulliau sy’n seiliedig ar weithgareddau yn aml yn arbennig o effeithiol wrth ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chynnal cyfranogiad.
Canfu gwerthusiad Wavehill fod rhai dulliau’n gweithio’n arbennig o dda ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol. Roedd y rhain yn cynnwys dod â chyfoedion â phrofiadau cyffredin at ei gilydd, cynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol mewn recriwtio a gwneud penderfyniadau, lleihau rhwystrau ymarferol i gyfranogiad, darparu cymorth bugeiliol a defnyddio timau staff amrywiol â gwybodaeth leol gref.
Estynnodd yr effaith y tu hwnt i’r bobl ifanc eu hunain. Dywedodd naw deg y cant o sefydliadau a ariannwyd fod y gronfa wedi eu galluogi i gyflwyno gweithgareddau na fyddent wedi’u cynnal fel arall, a chytunodd 89% o staff fod pobl ifanc wedi dod yn fwy rhan o brosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol. Nododd sefydliadau ymgysylltiad cryfach â phobl ifanc, gwasanaethau mwy perthnasol a datblygiad fforymau ieuenctid a threfniadau ymgynghori newydd. Disgrifiodd staff hefyd werthfawrogiad cynyddol o arferion dan arweiniad pobl ifanc a’r gwerth y gallai hyn ei ychwanegu at eu gwaith yn y dyfodol.
Cyrhaeddodd y newidiadau gymunedau hefyd. Dylanwadodd pobl ifanc ar fyrddau sefydliadau, cyfrannodd at ymgyrchoedd lleol, creodd gyfleusterau cymunedol a chododd ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar eu cyfoedion a’u cymunedau. Canfu’r gwerthusiad hefyd fod llais pobl ifanc wedi’i wreiddio’n fwy o fewn sefydliadau, gan helpu i lunio gwasanaethau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ymhell ar ôl i weithgareddau unigol gael eu cyflwyno.
Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen yma.